Alert Section

Cynnig y Ddarpariaeth Addysg Gatholig


Yn ddiweddar, cyhoeddodd Esgobaeth Gatholig Wrecsam (yr Esgobaeth) a Chyngor Sir y Fflint (y Cyngor), gynnig i ad-drefnu’r ddarpariaeth addysg Gatholig yn Sir y Fflint.

Fe geisiodd yr Esgobaeth a’r Cyngor farn budd-ddeiliaid allweddol ar gynnig i:

  • Gau Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Anthony yn Saltney erbyn 31 Awst 2026.
  • Uno Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant David yn yr Wyddgrug, Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir y Santes Fair yn y Fflint ac Ysgol Uwchradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Richard Gwyn yn y Fflint.
  • Byddai’r uno’n golygu y byddai’r ysgolion unigol yn cau erbyn 31 Awst 2026 ac ysgol unedig newydd, Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir 3-18 oed, Cyfrwng Saesneg, gydag enw a rhif ysgol newydd, yn agor ym mis Medi 2026, gan weithredu dros y tri safle presennol.
  • Symud yr ysgol newydd i’r adeiladau newydd o 1 Medi 2029.

Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ffurfiol ddydd Mawrth, 3 Mehefin 2025, a daeth i ben ddydd Gwener, 18 Gorffennaf 2025.

Mae'r adroddiad ymgynghori sy’n crynhoi'r materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ochr yn ochr ag ymateb y Cyngor ar gael yn y dolenni cyswllt isod.

Adroddiad Ymgynghori