Dewch i siarad: Byw yn Sir y Fflint
Arolwg ar-lein newydd ar gyfer preswylwyr lleol yw Dewch i Siarad: Byw yn Sir y Fflint. Caiff ei redeg gan Data Cymru ar ran Cyngor Sir y Fflint.
Trwy ymateb i’r arolwg, byddwch yn helpu Cyngor Sir y Fflint i ddeall y pethau hyn yn well:
- Beth sy'n bwysig i chi
- Eich profiad o’ch ardal leol
- Sut rydych chi’n gweld y Cyngor a rhyngweithio â’r Cyngor
Dechreuodd arolwg ar 15 Medi a bydd yn dod i ben ar 9 Tachwedd, 2025.
Gall preswylwyr nad ydynt yn gallu llenwi’r arolwg ar-lein fynd i unrhyw un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu lle bydd modd cael cefnogaeth. Mae’r oriau agor ar wefan y Cyngor.
Bydd cymorth hefyd ar gael yn Llyfrgell Symudol Gwella ar y dyddiadau isod:
Dyddiadau Ymweld Llyfrgell Symudol Gwella
Dyddiad | Ymweld |
Dydd Mawrth 30 Medi |
Caerwys, Calcoed, Brynffordd, Ysceifiog a Nannerch |
Dydd Iau 2 Hydref |
Talacre, Gronant, Gwaenysgor, Gwespyr, Mostyn a Pen-y-ffordd (CH8) |
Dydd Mercher 15 Hydref |
Penymynydd, Pen-y-ffordd (CH4), Yr Hob, Oaklea Grange, Kinnerton |
Dydd Gwener 17 Hydref |
Mancot, Mynydd Isa, Ewlo, Green Lane East |
Dydd Mercher 22 Hydref |
Penarlâg, Glannau Dyfrdwy, Ewlo, New Brighton, Shotton, Shotton Uchaf |
Dydd Gwener 24 Hydref |
Gwernymynydd, Gwernaffield, Rhosesmor, Rhydymwyn |
Dydd Mawrth 4 Tachwedd |
Llanfynydd, Y Ffrith, Abermorddu, Caergwrle, Coed-llai, Treuddyn |
Dydd Iau 6 Tachwedd |
Saltney Ferry, Saltney, Sandycroft, Mynydd y Fflint, Llaneurgain, Neuadd Llaneurgain |
Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i welliant parhaus a thros amser, bydd yr arolwg yn caniatáu i ni gymharu canlyniadau a nodi lle mae pethau wedi gwella a lle mae angen mwy o waith.
Ar ôl eu dadansoddi, bydd canlyniadau arolwg Dewch i Siarad: Byw yn Sir y Fflint yn cael eu cyhoeddi yma a byddant ar gael mewn Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu hefyd.
Ewch i'r arolwg
I ofyn am yr arolwg mewn fformat neu iaith arall, cysylltwch â:
E-bost: GwasanaethauCwsmer@siryfflint.gov.uk
Rhif ffôn: 01350 702030