Datrys yn anffurfiol
Os oes modd, credwn mai’r peth gorau yw delio â phethau yn syth bin. Os oes gennych bryder, soniwch amdano â’r unigolyn rydych yn delio ag ef. Fe wnân nhw geisio’i ddatrys i chi yn y fan a’r lle.
Sut i fynegi pryderon neu gwyno’n ffurfiol
Gallwch fynegi’ch pryder yn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:
- Gofyn am gopi o’n ffurflen gan y sawl rydych mewn cysylltiad â nhw yn barod. Dywedwch wrthynt eich bod eisiau i ni ddelio â’ch pryder yn ffurfiol
- Defnyddio’r ffurflen ar ein gwefan
- Anfon e-bost atom yn customerservices@flintshire.gov.uk
- Cysylltu â’r Gwasanaethau Cwsmer ar 01352 703020 os ydych eisiau cwyno dros y ffôn
- Ysgrifennu atom : Cyngor Sir y Fflint, Gwasanaethau Cwsmer, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. CH7 6NR.
Beth sy'n digwydd nesaf?
CAM 1
- Byddwn yn cydnabod eich cwyn yn ffurfiol o fewn 5 diwrnod gwaith ac yn rhoi gwybod i chi pryd y bwriadwn ddelio â hi
- Byddwn yn gofyn i chi sut byddech yn hoffi i ni gyfathrebu â chi a gweld a oes gennych unrhyw ofynion arbennig - er enghraifft, angen dogfennau mewn print brasByddwn yn delio â’ch pryder mewn ffordd agored a gonest
- Byddwn yn gwneud yn siŵr nad yw’ch ymwneud â ni yn y dyfodol yn dioddef ddim ond oherwydd i chi fynegi pryder neu wneud cwyn.
Fel arfer, dim ond os ydych yn dweud wrthym am bryderon o fewn chwe mis y byddwn yn gallu ymchwilio iddyn nhw. Mewn achos eithriadol, gallwn edrych ar bryderon a ddaw i’n sylw yn hwyrach na hyn. Beth bynnag, ni fyddwn yn ystyried unrhyw gwynion am faterion a ddigwyddodd dros dair blynedd yn ôl.
Os ydych yn mynegi cwyn ar ran rhywun arall, bydd angen iddyn nhw gytuno eich bod chi yn gweithredu ar eu rhan.
Ymchwiliad
Ein nod yw datrys pryderon cyn gynted ag y bo modd a disgwyliwn ddelio â’r mwyafrif helaeth o fewn 10 diwrnod gwaith. Os yw’ch cwyn yn fwy cymhleth, byddwn yn:
- Rhoi gwybod i chi yn yr adeg yma pam y credwn y gallai gymryd mwy o amser i ymchwilio
- Dweud wrthych pa mor hir y disgwyliwn i hyn gymryd
- Rhoi gwybod i chi ble’r ydym arni gyda’r ymchwiliad, a
- Rhoi diweddariadau rheolaidd i chi, yn cynnwys dweud wrthych a allai unrhyw ddatblygiadau newid ein hamcangyfrif gwreiddiol.
Cywiro Pethau
Os na wnaethom ddarparu gwasanaeth y dylech fod wedi’i gael, byddwn yn ceisio’i ddarparu yn awr, os yw hynny’n bosibl. Os na wnaethom ni rywbeth yn dda, byddwn yn ceisio’i wneud yn iawn. Os ydych ar eich colled o ganlyniad i gamgymeriad ar ein rhan, byddwn yn ceisio eich rhoi yn ôl yn y sefyllfa y byddech ynddi pe byddem wedi gwneud pethau’n iawn.
Os oes gennych hawl i gyllid ac ni wnaethom ei ddarparu, byddwn yn ceisio ad-dalu’r gost.
CAM 2
Os nad ydym yn llwyddo i ddatrys eich cwyn, gallwch ofyn i ni uchafu’ch cwyn i Gam 2. Gallwch ofyn i’r unigolyn a fu’n delio â’ch cwyn neu gysylltu â’r Gwasanaethau Cwsmeriaid. Byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym pam eich bod yn anfodlon â’r ymateb a gawsoch a pha ganlyniad rydych yn gobeithio’i gael.
Byddwn yn dweud wrthych pwy sy’n edrych i mewn i’ch pryder neu gŵyn a byddwn yn anelu at ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith. Os yw’ch cwyn yn fwy cymhleth, byddwn yn:
- Rhoi gwybod i chi yn yr adeg yma pam y credwn y gallai gymryd mwy o amser i ymchwilio
- Dweud wrthych pa mor hir y disgwyliwn i hyn gymryd
- Rhoi gwybod i chi ble’r ydym arni gyda’r ymchwiliad, a
- Rhoi diweddariadau rheolaidd i chi, yn cynnwys dweud wrthych a allai unrhyw ddatblygiadau newid ein hamcangyfrif gwreiddiol.
Os ydym yn uchafu’ch cwyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth rydym yn dod o hyd iddo. Os oes angen, byddwn yn cynhyrchu adroddiad. Byddwn yn esbonio sut a pham y daethom i’n casgliadau.
Beth sy’n digwydd os nad wyf yn cytuno gyda chanlyniad fy nghwyn?
Os nad ydym yn llwyddo i ddatrys eich cwyn, gallwch gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol ar bob corff llywodraeth a gall ymchwilio i’ch cwyn os ydych yn credu eich bod chi’n bersonol, neu’r sawl yr ydych yn cwyno ar ei ran:
- Wedi cael eich trin yn annheg neu wedi cael gwasanaeth gwael drwy ryw fethiant ar ran y darparwr gwasanaeth
- Wedi bod o dan anfantais bersonol gan fethiant gwasanaeth neu wedi cael eich trin yn annheg.
Fel arfer bydd yr Ombwdsmon yn disgwyl i chi ddod â’ch pryderon i’n sylw ni gyntaf a rhoi cyfle i ni unioni pethau. Gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon drwy:
- Ffôn: 0300 790 0203
- Ebost: ask@ombudsman.wales
- Y wefan: www.ombudsman.wales
- Ysgrifennu at: Obwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed CF35 5LJ