Alert Section

Eich hawl i ategu a chwyno am Gwasanaethau Cymdeithasol



Gallwch chi, neu rywun ar eich rhan, gysylltu â’r Tîm Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol gyda’ch sylw, canmoliaeth neu gŵyn.  (Ewch i Pryderon a Chwynion os yw'ch cwyn yn ymwneud â gwasanaeth arall gan y Cyngor).

Gallwch ysgrifennu atom, ffonio neu e-bostio:

  • Cyfeiriad: Y Tîm Cwynion
    Gwasanaethau Cymdeithasol
    Tŷ Dewi Sant
    St David's Park, Ewloe
    Sir y Fflint.  CH5 3XT.
  • Rhif ffôn: 01352 702623
  • E-bost: myview@flintshire.gov.uk

Dywedwch wrthym beth yw eich barn am y Gwasanaethau Cymdeithasol, neu pam eich bod yn anfodlon, ac mi wnawn ni wrando.  Nod Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint yw darparu gwasanaethau o ansawdd uchel.  Fodd bynnag, efallai y bydd achlysuron pan fydd pobl sy’n defnyddio neu sydd eisiau defnyddio’n gwasanaethau yn dymuno gwneud sylw neu gwyno am y gwasanaeth maent yn ei dderbyn. Pan fyddwch yn mynegi’ch pryderon neu eich cwyn i ni, mi wnawn ni wrando. Mae angen i ni wybod os nad yw pethau’n mynd yn iawn neu eu bod yn groes i’r cynllun er mwyn gallu adolygu’r sefyllfa a helpu i wneud pethau'n iawn i chi.

Peidiwch â bod ofn cwyno a gallwn eich sicrhau na fydd unrhyw effaith ar y gefnogaeth rydych yn ei chael gennym ac na fydd effaith ar unrhyw gyswllt rydych yn ei gael gyda ni dim ond am eich bod wedi gwneud cwyn.

Gwneud Cwyn

Cam 1 - (Datrysiad Lleol)

Credwn mai’r peth gorau i’w wneud yw ymdrin â’r mater ar unwaith, yn hytrach na cheisio datrys y broblem yn nes ymlaen.  Os oes gennych bryderon, rhowch wybod i’r person rydych yn delio â nhw (e.e. Gweithiwr Cymdeithasol).  Byddant yn ceisio eu datrys i chi yn y fan a’r lle.

Os na allwn ddatrys eich cwyn ar unwaith neu erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf, gallwch gysylltu’n uniongyrchol â'r Tîm Cwynion.  Gallwch wneud hyn wyneb yn wyneb, dros y ffôn, ar bapur neu drwy e-bost.  Nid oes rhaid i chi gyflwyno’ch cwyn yn ysgrifenedig. Gallwch gysylltu â’r Tîm Cwynion drwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn.  Ar ôl derbyn eich cwyn:

  • Byddwn yn cofnodi a chydnabod eich cwyn o fewn 2 ddiwrnod gwaith i’w derbyn
  • Bydd cyfle i chi drafod eich cwyn gyda Rheolwr o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl i’ch cwyn gael ei chydnabod. Bydd hyn naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn
  • Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y problemau’n cael eu datrys ar y cam hwn
  • Unwaith y byddwch chi a'r Rheolwr wedi cytuno sut i ddatrys eich cwyn, byddant yn ysgrifennu atoch o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad hwnnw
  • O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn yn awgrymu cyfryngu neu ddull arall i geisio datrys anghydfodau.

Cam 2 – (Ystyriaeth Ffurfiol)

  • Os nad ydych yn fodlon ag ymateb yr Adran yng Ngham 1, mae hawl gennych i ofyn i’ch cwyn gael ei hymchwilio’n annibynnol yng Ngham 2
  • Bydd y Tîm Cwynion yn trafod eich cais yn fanylach gyda chi
  • Byddwn yn penodi Ymchwilydd Annibynnol i edrych ar eich cwyn
  • Dylai gymryd 25 diwrnod gwaith i gwblhau’r ymchwiliadau hyn, ond efallai y bydd angen mwy o amser yn dibynnu ar gymhlethdod y gŵyn
  • Mae gennych yr hawl i fynd â'ch cwyn yn syth i Gam 2, ond credwn mai’r ffordd gyflymaf a symlaf i ddatrys eich pryderon yw gwneud hyn yng Ngham 1.

A oes angen help neu gefnogaeth arnoch i roi eich barn?
Mae gan Sir y Fflint amryw o sefydliadau di-dâl ac annibynnol a all eich helpu i leisio’ch barn a’ch cefnogi i wneud cwyn.  Mae’r rhain yn cynnwys:

Mae Gwasanaeth Eiriolaeth Sir y Fflint yn cefnogi gwaith gydag oedolion, pobl hŷn, pobl iau sydd â dementia a’u gofalwyr.
Ffôn: 01352 759332
E-bost: FAS@flintshireadvocacy.co.uk
Gwefan: www.flintshireadvocacy.co.uk

Mae Cymdeithas Cyngor ac Eiriolaeth Gogledd Cymru yn rhoi cyngor ac eiriolaeth i bobl gydag anableddau.
Ffôn: 01248 670852
E-bost: enquiry@nwaaa.co.uk
Gwefan: www.nwaaa.co.uk

Mae Age Connects yn darparu help a chyngor i bobl hŷn.
Ffôn: 08450 549969
E-bost: info@acnew.org.uk
Gwefan: www.acnew.org.uk

Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru
Ffôn: 01352 752525
E-bost: flintshire@newcis.org.uk
Gwefan: https://www.newcis.org.uk/

Gall Comisiynydd Plant Cymru gynghori a chefnogi plant a phobl ifanc (a’u rhieni/ gofalwyr) sydd o dan 18 oed (neu o dan 25 oed os ydynt wedi bod mewn gofal).
Ffôn: 01492 523333
E-bost: post@complantcymru.org.uk
Gwefan: www.complantcymru.org.uk

Rhoi canmoliaeth
Rydym hefyd eisiau clywed gennych chi os ydych chi’n credu ein bod wedi gwneud rhywbeth yn dda. Gallech fod eisiau canmol am eich Gweithiwr Cymdeithasol neu eich Gofalwr. Mae’n bwysig ein bod yn clywed am unrhyw waith da y gallai rhywun fod wedi’i wneud gyda chi. Gallwch anfon e-bost, ffonio neu ysgrifennu at y Tîm Cwynion, a fydd yn sicrhau bod eich canmoliaeth yn cael ei rhannu gyda'r aelod staff dan sylw, yn ogystal â Rheolwyr a Chynghorwyr.