P'un a ydych yn chwilio am rywbeth i chi a'ch teulu ei wneud, neu eisiau man croesawus a chynnes i gael sgwrs a lluniaeth, mae nifer o leoliadau ledled Sir y Fflint sydd eisiau cynnig croeso cynnes i chi yn ystod misoedd y gaeaf.
Cliciwch ar y map isod i ganfod “Croeso Cynnes” sy’n agos atoch chi:
Gweld ar ein map ar-lein
Mae’r map yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd, felly sicrhewch eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn eich ardal chi.
Os ydych yn byw yn ein llety gwarchod, cysylltwch â’r Tîm Cefnogi Llety ar 01352 762 898 i weld beth sy’n digwydd yn agos atoch chi.
A ellwch chi gynnig Croeso Cynnes?
A ydych yn sefydliad, canolfan gymunedol neu fusnes lleol sydd eisiau cymryd rhan, ac sy’n gallu cynnig lle ar gyfer croeso cynnes? E-bostiwch CommunityDevelopmentTeam@flintshire.gov.uk gyda’ch manylion fel y gallwn eu hychwanegu i’n map.
A ydych yn sefydliad, canolfan gymunedol neu fusnes lleol sydd angen cyllid i gynnal eich gofod croeso cynnes? Os ydych, llenwch y ffurflen isod.
Prosiect Croeso Cynnes Ffurflen Gais am Grant
Os ydych eisiau gwybod mwy am cynnig croeso cynnes, neu unrhyw wybodaeth arall, cysylltwch â: CommunityDevelopmentTeam@flintshire.gov.uk
