Mae costau gwresogi wedi'u cynnwys yn fy rhent; a allaf wneud cais?
Yn seiliedig ar ganllawiau Llywodraeth Cymru, na. Os byddwch yn ceisio gwneud cais ar y sail hon, bydd eich cais yn cael ei wrthod. Rhaid i chi fod yn prynu olew gwresogi neu LPG 'oddi ar y grid' eich hun (a gallu profi hynny gyda derbynneb neu anfoneb o'r 12 mis diwethaf) er mwyn bod yn gymwys.
Pam y gwnaethoch chi ysgrifennu ataf a fy ngwahodd i wneud cais os yw'r taliadau wedi'u cynnwys yn fy rhent?
Defnyddiwyd y data a ddarparwyd i ni i nodi eiddo a allai fod yn rhai 'oddi ar y grid'. Ni chawsom ddata ynghylch pwy sy'n gyfrifol am y biliau, felly ni allem tynnu’r eiddo hyn o'n gwahoddiadau i wneud cais.
Nid yw fy eiddo 'oddi ar y grid' ar gyfer gwresogi, pam wnaethoch chi fy ngwahodd i wneud cais?
Anfonwyd y gwahoddiad i wneud cais yn seiliedig ar wybodaeth a dderbyniwyd gennym gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn dangos bod eich eiddo oddi ar y grid. Os yw'r wybodaeth hon yn anghywir, ymddiheurwn yn ddiffuant am unrhyw ddryswch neu anghyfleustra a achoswyd.
Rwy'n gwresogi fy nghartref gan ddefnyddio olew gwresogi neu LPG, ond nid wyf wedi prynu unrhyw beth ers dros 12 mis. Mae'r canllawiau'n nodi bod yn rhaid i'm tystiolaeth fod o fewn y 12 mis diwethaf; a allaf wneud cais?
Yn anffodus, mae'r canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn nodi bod yn rhaid i'r prawf a gyflwynir fod â dyddiad o fewn y 12 mis diwethaf. Os yw'r dystiolaeth yn hŷn na 12 mis, ni fyddwn yn gallu cymeradwyo eich cais yn seiliedig ar y canllawiau presennol.
Rwy'n gwresogi fy nghartref gan ddefnyddio glo, pren neu belenni pren. A allaf wneud cais am y cynllun £200?
Na. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, dim ond i aelwydydd sy'n defnyddio olew gwresogi neu LPG (nwy petrolewm hylifedig) fel eu prif ffynhonnell gwresogi oddi ar y grid y mae'r cynllun hwn ar gael. Os yw eich cartref yn cael ei gynhesu gan ddefnyddio glo, pren neu belenni pren, nid ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn.
Mae gen i fil nwy gan British Gas, E.ON, EDF, Octopus neu gyflenwr ynni arall. A ydw i'n gymwys?
Na. Dim ond i aelwydydd nad ydynt wedi'u cysylltu â'r prif rwydwaith nwy ac sy'n defnyddio olew gwresogi neu LPG fel eu prif ffynhonnell gwresogi y mae'r cynllun £200 ar gael.