Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Croeso Cynnes / Warm Welcome 

Published: 06/12/2022

Logo Croeso Cynnes.jpgMae Sir y Fflint yn atgoffa trigolion ein bod yn estyn croeso cynnes y gaeaf hwn a gallwch ddarganfod mwy trwy fynd i siryfflint.gov.uk/croesocynnes.

Mae'r Cyngor hefyd yn cynnig cymorth ariannol i sefydliadau a chanolfannau lleol i helpu i sefydlu cymaint o ganolfannau croeso cynnes â phosibl - ac nid yw'n rhy hwyr i wneud cais.

Cliciwch yma i ganfod “Croeso Cynnes” sy’n agos atoch chi.  Bydd y map yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd felly cadwch lygad arno i weld beth sydd ymlaen yn eich ardal. 

A ydych yn sefydliad, canolfan gymunedol neu fusnes lleol sydd eisiau cymryd rhan, ac sy’n gallu cynnig lle ar gyfer croeso cynnes?

E-bostiwch CommunityDevelopmentTeam@flintshire.gov.uk gyda’ch manylion fel y gallwn eu hychwanegu i’n map.

Neu a oes angen cyllid ychwanegol ar eich sefydliad, canolfan gymunedol neu fusnes lleol i redeg eich gofod croeso cynnes?  Os felly, mae cyllid ar gael a gallwch wneud cais drwy lenwi'r ffurflen ar wefan Sir y Fflint.

Os ydych eisiau gwybod mwy ynglyn â sefydlu gofod er mwyn cynnig croeso cynnes, neu unrhyw wybodaeth arall, cysylltwch â: CommunityDevelopmentTeam@flintshire.gov.uk

Dylai unrhyw un sy’n byw mewn llety gwarchod Sir y Fflint gysylltu â’u tîm cymorth llety ar 01352 762 898 i gael gwybod beth sydd ymlaen yn agos atynt.