Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cnoi cil ar eich bwyd!

Published: 12/12/2022

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gofyn i chi edrych eto ar y bwyd rydych yn ei brynu a chnoi cil ar hyn dros dymor y gwyliau.

Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2022 fe ailgylchwyd bron i 4,700 tunnell o wastraff bwyd gennym yn Sir y Fflint. Caiff y gwastraff bwyd hwn ei gludo i gyfleuster treulio anaerobig yn Rhuallt lle caiff ei droi’n fio-nwy a bio-wrtaith. Mae hyn yn cynhyrchu trydan i roi pwer i’n cartrefi a gwrteithiau i ffermwyr er mwyn tyfu ein bwyd. I ddarganfod mwy am y broses gwyliwch y fideo byr hwn.

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes: 

“Mae’n wych ein bod yn ailgylchu gwastraff bwyd ond rydym yn gwybod fod yna lawer o wastraff bwyd yn cael ei roi yn y bin du o hyd. Mae tua chwarter y gwastraff a gaiff ei roi yn y bin du yn fwyd a allai gael ei anfon i’w ailgylchu; fodd bynnag, rydym yn gwybod fod y rhan fwyaf o’r bwyd hwn yn parhau i fod mewn cyflwr bwytadwy!

“O ystyried yr effaith y gall tyfu, cynhyrchu, cludo a gwaredu bwyd ei gael ar yr amgylchedd, mae angen i ni weithredu ac nid oes amser gwell i ddechrau ar hynny nag adeg y Nadolig pan rydym yn gweld cynnydd mewn ailgylchu a gwastraff bob blwyddyn.”

Roast dinner Welsh.jpgI helpu gyda chynllunio a rheoli’r cyfanswm o fwyd rydym yn ei brynu a’i fwyta mae’r ymgyrch ‘Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff’ wedi darparu cyngor ar gamau syml y gallwn ni i gyd eu defnyddio i leihau’r cyfanswm o fwyd rydym yn ei wastraffu. Gallwch weld canllaw ar gynllunio eich trefn wythnosol o ran bwyd ar eu gwefan: Trefn bwyd wythnosol a Pham Arbed Bwyd.  

Os ydych yn canfod fod gennych chi ormod o fwyd, ystyriwch ei roi i’r banc bwyd lleol neu’r oergell gymunedol fel y gall eraill yn y gymuned wneud defnydd ohono. Nodwch os gwelwch yn dda mai dim ond bwyd heb ei ddefnyddio/heb ei agor y mae modd ei roi i’r cyfleusterau hyn.

Os oes gennych chi wastraff bwyd ar ôl fe allwch ystyried ei gompostio i’w ddefnyddio yn ôl yn eich gardd fel cyflyrwr pridd. I gael canllaw syml ar sut i wneud hyn edrychwch ar ein canllaw llawn gwybodaeth.

leftovers.jpgMae llawer ohonoch yn defnyddio’r gwasanaeth casglu ymyl palmant ar gyfer gwastraff bwyd ond os nad ydych yn gwneud hynny dechreuwch ei ddefnyddio!  Ewch i’n gwefan i ddarganfod lle y gallwch wneud cais am gynwysyddion bwyd a bagiau.

Mae yna gynifer o fanteision o ddefnyddio’r gwasanaeth casglu gwastraff bwyd wythnosol sef:

• Mae’n ddull mwy amgylcheddol gyfeillgar o waredu gwastraff;

• Mae’n ein helpu ni i gyflawni ein targedau ailgylchu cenedlaethol;

• Mae’n lleihau arogleuon o wastraff bwyd yn pydru am bythefnos yn y bin du ac mae’n lleihau’r perygl o bryfetach.

Mae pob darn o fwyd a wastraffir yn cael effaith ar yr amgylchedd - cludiant, tanwydd, dwr, ynni - mae hyn i gyd yn adio.  A thra bod gan lywodraethau a busnesau ran bwysig i’w chwarae, caiff 70% o’r bwyd a gaiff ei wastraffu yn y DU ei wastraffu gennym ni yn ein cartrefi ein hunain. Caiff chwarter o hyn, 1.1 miliwn tunnell, ei wastraffu bob blwyddyn yn syml gan ein bod yn paratoi, coginio neu’n gweini gormod.

Gan ddymuno Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda ac iach i bawb oddi wrth y tîm ailgylchu.