Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lansio Canolbwynt Tai Digidol newydd Sir y Fflint

Published: 26/01/2023

Housing Support CYM.JPGMae Gwasanaethau Cymorth Tai ac Atal Digartrefedd Sir y Fflint wedi lansio eu Canolbwynt Tai ac Atal Digartrefedd ar wefan y Cyngor sy’n cynnig ffordd syml i ddod o hyd i wybodaeth a chefnogaeth ddefnyddiol mewn perthynas â thai.

Mae’n cynnwys ystod o wybodaeth mewn perthynas â gwasanaethau cymorth tai yn ogystal â chyngor i’r rheiny sy’n wynebu caledi tai, problemau yn eu cartref, digartrefedd neu berygl o ddigartrefedd.  Mae’r gefnogaeth yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi’i theilwra i ymateb i anghenion ac amgylchiadau arbennig yr unigolyn.   Yn ogystal â darparu nifer o wasanaethau, mae’r Cyngor hefyd yn gweithio gyda sefydliadau eraill i helpu pobl i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau mewn perthynas â thai.   

Mae cyngor a chefnogaeth ddefnyddiol iawn ar gael ar beth i’w wneud os ydych yn ddigartref neu mewn perygl o ddigartrefedd.   Byddem yn annog unrhyw un yn y sefyllfa hon i gysylltu â’r Cyngor cyn gynted â phosibl.   Mae’r Canolbwynt hwn yn un ffordd o gael cyngor a chefnogaeth a dysgu mwy am ein gwasanaethau.  

Dywedodd y Cynghorydd Sean Bibby, Aelod Cabinet Tai ac Adfywio Sir y Fflint:

“Credaf ei fod yn bwysig fod pobl yn derbyn cymorth a chyngor ac yn gallu cysylltu â’r Cyngor yn rhwydd os ydynt yn wynebu problemau mewn perthynas â thai.  Mae’r Canolbwynt newydd yn dod â’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael i drigolion ynghyd mewn un safle hygyrch.   

“Mae hyn yn cynnwys problemau mewn perthynas â rhentu preifat neu gyllid, yn ogystal â materion yn ymwneud â chyflwr yr eiddo, neu hyd yn oed digartrefedd neu berygl o ddigartrefedd.   Mae hefyd yn cynnwys dolen i wefan Dewis Cymru sy’n cynnig cefnogaeth ar gyfer bob agwedd o les gan dros 6,000 o wasanaethau lleol a chenedlaethol.”

Mae’r Gwasanaethau Cymorth Tai ac Atal Digartrefedd yn cynnig ystod eang o gyngor a chymorth ac yn cefnogi pobl i oresgyn eu problemau tai.   Lle na ellir mynd i’r afael â phroblemau mewn perthynas â thai, mae’n bosibl y bydd trigolion yn gymwys i ymuno â’r gofrestr tai cyffredin.   Dyma sut mae’r Cyngor a chymdeithasau tai lleol yn dyrannu tai cymdeithasol. 

Dim ond hyn a hyn o dai cymdeithasol sydd ar gael bob blwyddyn.   Mae hyn yn golygu bod ein gwasanaethau’n canolbwyntio ar helpu trigolion i aros yn eu cartref presennol drwy oresgyn y problemau a, lle bo modd, osgoi’r angen i symud.   Pan fydd pobl angen symud, mae’r amseroedd aros yn gallu bod yn hir. 

Yn ogystal â’r wybodaeth hon, gallwch ddod o hyd i gwestiynau ac atebion trylwyr i fynd i’r afael â’ch pryderon, cliciwch yma i ddysgu mwy!