
Mae Cymorth Tai yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n rhoi gwasanaethau cefnogi yn ymwneud â thai i bobl dros 16 oed. Mae’n rhaglen ymyrraeth gynnar i gefnogi gweithgarwch, ac atal pobl rhag mynd yn ddigartref, sefydlogi eu sefyllfa o ran llety, neu helpu pobl mewn perygl o fod yn ddigartref i ddod o hyd i lety. Mae’r gefnogaeth yn canolbwyntio ar yr unigolyn, gyda'r nod o gefnogi pobl i sicrhau a chynnal tai cynaliadwy drwy fynd i'r afael â'r problemau y gallen nhw eu hwynebu.
Gallwch gysylltu â Chymorth Tai a chael mynediad at eu gwasanaethau drwy’r Porth Cymorth Tai drwy ofyn i’ch gweithiwr cymdeithasol, gweithiwr iechyd proffesiynol neu unrhyw weithiwr proffesiynol arall o asiantaeth berthnasol i gysylltu, drwy ofyn i ffrind neu aelod o’ch teulu gysylltu, neu drwy ffonio 01352 703515 neu e-bostio'r Tîm Cymorth Tai: Housing.Support@Flintshire.gov.uk
Dolen Hunan Atgyfeirio