Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor yn gwahodd sefydliadau i wneud cais am gyfran o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Published: 01/02/2023

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd sefydliadau i gyflwyno ceisiadau i brosiectau am gefnogaeth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae’r Gronfa yn golofn galonog o raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu cyllid gwerth £2.6 biliwn ar gyfer buddsoddiad lleol ar draws y DU erbyn mis Mawrth 2025.  Dyrannwyd dros £13 miliwn dros gyfnod o 3 blynedd i Sir y Fflint.

Amcan trosfwaol y gronfa yw meithrin balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd, ac mae’r Gronfa yn ceisio cyflwyno hyn drwy dair blaenoriaeth buddsoddi: 

• Cymuned a Lle;

• Cefnogi Busnesau Lleol a,

• Pobl a Sgiliau 

Hefyd, mae arian ar gael i gefnogi rhifedd i oedolion (rhaglen Luosi)

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio ochr yn ochr gydag awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru i weinyddu a rheoli’r rhaglen ar sail ranbarthol.  Mae’r penderfyniad ar ba brosiectau a ddyrenir cyllid yn cael eu gwneud yn lleol, mewn partneriaeth sydd yn cynnwys ystod o randdeiliaid a phartneriaid strategol sy’n cynghori a gwneud argymhellion ar y prif flaenoriaethau a sut y dylid targedu’r buddsoddiad.

Mae Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru eisiau cefnogi prosiectau mawr a strategol gyda lleiafswm gwerth o £250,000.  Anogir ceisiadau am brosiectau sy’n cynnwys rhaglenni grant neu fodd eraill o ddyrannu cyllid i brosiectau llai, a sefydliadau eraill a buddiolwyr.  Dylai brosiectau fod yn bennaf ar sail refeniw, er gellir ystyried prosiectau cyfalaf bach i gael cefnogaeth. 

Bydd rhaid i holl brosiectau gael eu cwblhau a’u hawlio’n llawn erbyn 31 Rhagfyr 2024 ar yr hwyraf.

Mae’n rhaid i unrhyw sefydliad sy’n dymuno gwneud a chyflwyno eu cais ar-lein dim hwyrach na 12 hanner dydd, dydd Gwener 24 Chwefror 2023.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch y Gronfa a dolenni cyswllt i'r dogfennau ymgeisio perthnasol, ffurflen gais a chanllaw ar gael ar wefan y Cyngor:

https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Business/Regeneration/UK-Shared-Prosperity-Fund.aspx