Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ydych chi wedi hawlio eich Taliad Tanwydd Gaeaf? 

Published: 06/02/2023

Housing image with money.jpgMae’n rhaid cyflwyno pob cais cyn 5pm ar 28 Chwefror 2023.

Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad untro o £200 gan eu hawdurdod lleol i gyfrannu tuag at dalu eu costau tanwydd.  

Mae’r taliad yma yn ychwanegol at y taliad tanwydd gaeaf sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU ac mae’r Taliad Tanwydd Gaeaf fel arfer yn cael ei dalu i bensiynwyr.   Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd cymwys (un taliad fesul aelwyd) ni waeth sut maent yn talu eu tanwydd, boed hynny er enghraifft ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter, ac fe ellir ei hawlio pa unai ydynt yn defnyddio tanwydd ar y grid neu oddi ar y grid neu beidio.

Bydd y cynllun yn agored i aelwydydd lle mae ymgeisydd, neu eu partner yn derbyn un o’r budd-daliadau cymwys ar unrhyw adeg rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023.

I gael manylion llawn y Cynllun Taliad Tanwydd Gaeaf, ynghyd â chefnogaeth arall sydd ar gael, ewch i wefan Cyngor Sir y Fflint.