Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Coroni'r Brenin: Partïon stryd

Published: 07/03/2023

Coronation 2023 Red-Blue [Small] Welsh.pngYn ystod y penwythnos 6 – 8 Mai 2023, bydd pobl yn dathlu Coroni Ei Fawrhydi Y Brenin.

Yn ogystal  â nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol a drefnwyd, mae pobl i fyny ac i lawr y DU yn cael eu hannog i ddod at ei gilydd a dod â dathliadau’r Coroni i ganol eu cymunedau eu hunain.

Darllenwch y wybodaeth isod os ydych chi’n byw yn Sir y Fflint ac am gynllunio dathliad cymunedol.

Parti stryd yw digwyddiad bach ar gyfer trigolion lleol a'u teuluoedd (am ddim); nad yw'n cael ei hysbysebu i'r gymuned ehangach.  Caiff ei gynnal mewn ty neu ardd, mewn man gwyrdd lleol neu ar ffordd breswyl dawel.   Y trigolion lleol fydd yn darparu’r bwyd ac ni chaniateir gwerthu alcohol.  Caniateir chwarae cerddoriaeth heb seinchwyddwr rhwng 8am ac 11pm (oni bai bod Hysbysiad Digwyddiad Dros-dro yn ei le).

Gellir gwerthu tocynnau raffl ar gyfer elusen neu achos da ar y diwrnod am wobrau gwerth llai na £500. 

Os yw hyn yn swnio fel eich digwyddiad chi a’ch bod yn bwriadu ei gynnal ar isffordd breswyl, lle na fydd fawr o effaith ar draffig trwodd, bydd angen i chi wneud cais am Orchymyn Traffig Dros Dro (TTRO).   

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 31 Mawrth 2023.  Cliciwch yma am fwy o wybodaeth