Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Disgyblion Blwyddyn 1 a 2 i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim mewn Ysgolion Cynradd

Published: 20/03/2023

Mae Prydau Ysgol am Ddim i holl Blant Ysgolion Cynradd ar gael i holl ddisgyblion derbyn ar draws 64 ysgol gynradd yn Sir y Fflint ers Medi 2022 ac o 17 Ebrill 2023 bydd y cynnig yn cael ei ymestyn i gynnwys holl ddisgyblion blwyddyn un a dau.

Yn dilyn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i holl Blant Ysgolion Cynradd yn raddol erbyn 2024, mae bron i 70% o holl blant derbyn sy’n mynychu’r ysgol yn Sir y Fflint wedi derbyn y cynnig am brydau ysgol am ddim.  

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Mae cyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i ddisgyblion derbyn ar draws y sir wedi bod yn hynod o lwyddiannus, gan amlygu cymaint mae teuluoedd yn gwerthfawrogi’r cymorth ychwanegol yn ystod yr argyfwng costau byw.  Bydd ei ymestyn i gynnwys disgyblion ym mlynyddoedd un a dau, yn darparu cymorth ychwanegol i deuluoedd ar amser pan maent ei angen fwyaf.

“Bydd disgyblion ym mlwyddyn 3 a 4 yn derbyn y cynnig ym mis Medi eleni (2023) ac mae Sir y Fflint ar y trywydd iawn i fodloni targed Llywodraeth Cymru i holl ddisgyblion cynradd dderbyn prydau ysgol am ddim erbyn Medi 2024.”

Nid oes angen i rieni wneud cais i’w plentyn dderbyn Prydau Ysgol am Ddim.  Bydd disgyblion yn y grwpiau blwyddyn cymwys yn derbyn eu prydau ysgol am ddim yn awtomatig oni bai eu bod yn optio allan. 

Er bod teuluoedd ar incymau is neu sy’n derbyn budd-daliadau penodol yn gymwys am gymorth ar gyfer hanfodion ysgol eraill, nid yw derbyn Prydau Ysgol am Ddim yn eu gwneud yn gymwys i’w dderbyn yn awtomatig.  Er mwyn elwa o’r cymorth ychwanegol rhaid i rieni/gofalwyr wneud cais.  Gellir gwneud cais yn https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Council-Tax/Free-School-Meals-and-Uniform-Grants.aspx

Gall deuluoedd ar incymau is neu’r rhai sy’n derbyn budd-daliadau penodol, sydd â phlant ym mlwyddyn 3 neu uwch, neu yn yr ysgol uwchradd, wneud cais am brydau ysgol am ddim a chymorth gyda hanfodion ysgol eraill.  Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Council-Tax/Free-School-Meals-and-Uniform-Grants.aspx