Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cwn

Published: 02/06/2023

Dog fouling.jpgMae Cyngor Sir Y Fflint am ymgynghori ar ymestyn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cwn cyfredol sy’n ofynnol gan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. 

Mae’r gwaharddiadau sydd ar waith ar hyn o bryd, y mae’r Cyngor yn cynnig eu hymestyn am dair blynedd arall, yn gofyn bod perchnogion cwn yn: 

  • Clirio baw ci yn syth o fannau cyhoeddus
  • Rhoi eu cwn ar dennyn pan fo swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt wneud hynny. Mae hyn yn berthnasol ar dir cyhoeddus a phan ystyrir bod ci allan o reolaeth neu’n achosi trallod
  • Cadw cwn ar dennyn mewn mynwentydd
  • Sicrhau bod ganddynt fagiau baw cwn ac ati i godi’r baw i fyny, a bydd gofyn iddynt brofi hynny ar gais swyddog awdurdodedig. 

Byddai gwaharddiad hefyd i gwn rhag cael mynediad i:

  • Ardaloedd chwarae plant caeedig
  • Ardaloedd chwarae meysydd chwaraeon wedi eu marcio
  • Ardal chwarae cyfleusterau chwaraeon neu hamdden benodol
  • Ar dir ysgolion

Yn ogystal, o ganlyniad i adroddiadau am ddiffyg rheolaeth dros gwn ar y llwybr troed o amgylch y Rosie, Parc Gwepra, Cei Connah a Gerddi Coffa yr Wyddgrug, Maes Bodlonfa, yr Wyddgrug, mae’r Cyngor hefyd yn ymgynghori ar naill ai gwahardd cwn neu fynnu bod cwn yn cael eu cadw ar dennyn bob amser ar y safleoedd hyn. 

Byddai torri unrhyw un o’r amodau uchod yn arwain at roi Rhybudd Cosb Benodedig i’r person sy’n gyfrifol am y ci.

Yn destun ymgynghoriad rhwng dydd Llun 5 Mehefin a dydd Gwener 14 Gorffennaf, gellir canfod rhagor o wybodaeth, gan gynnwys rhestr o safleoedd posibl lle byddai’r gwaharddiadau’n weithredol, ar wefan y Cyngor www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/New-Measures-for-Dog-Control.aspx.

Gall preswylwyr sydd angen cefnogaeth i gael mynediad at wybodaeth ar-lein ymweld ag un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu lle bydd ymgynghorwyr gwasanaeth i gwsmeriaid yn fodlon cynorthwyo.   Gofynnir i breswylwyr wirio’r amseroedd agor cyn teithio drwy ffonio 01352 752121 neu ewch i wefan y Cyngor https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Flintshire-Connects.aspx 

Treuliwch ychydig o amser yn cwblhau’r arolwg hwn, rydym yn gwerthfawrogi eich barn.