Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Paratoi Ffyrdd Sir y Fflint ar gyfer terfyn cyflymder cenedlaethol 20mya Llywodraeth Cymru

Published: 10/07/2023

Mae pob cyngor yng Nghymru, gan gynnwys Cyngor Sir y Fflint, ar hyn o bryd yn gweithio i sicrhau bod ffyrdd lleol yn barod ar gyfer y newid hwn mewn deddfwriaeth.

Yma yn Sir y Fflint, rydym yn: 

Defnyddio’r meini prawf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i asesu ffyrdd cyfyngedig presennol yn Sir Fflint.   

  • Er bydd y rhan fwyaf o ffyrdd cyfyngedig Sir y Fflint yn newid i 20mya, mae’r Cyngor, gan weithio’n agos â chynghorwyr sir lleol, wedi nodi rhai ffyrdd lle mae posibilrwydd y gallant barhau i fod yn rhai 30mya ar ôl i’r newid deddfwriaethol cenedlaethol ddod i rym ym mis Medi. 

  • I bennu ‘eithriad’ i ffordd gyfyngedig, mae’n rhaid i’r Cyngor gael achos clir a rhesymegol dros wneud hynny sy’n profi bod tystiolaeth gref yn bodoli y byddai cadw terfyn cyflymder uwch yn ddiogel.  Ni fydd pob ffordd 30mya bresennol yn bodloni’r prawf hwn, ond mae’n debygol y bydd rhannau o ffyrdd yn bodloni’r prawf.  Yma yn Sir y Fflint, mae 15 rhan o ffordd ledled y sir wedi eu nodi fel eithriadau posibl ar hyn o bryd, a gellir eu gweld ar-lein yma: https://mapdata.llyw.cymru/maps/roads-affected-by-changes-to-the-speed-limit-on-re/

  • Pan nodir eithriadau, byddant yn cael eu hysbysebu’n ffurfiol fel rhan o broses ymgynghori statudol.  Bydd eithriadau arfaethedig ar gyfer y ffyrdd a aseswyd hyd yma yn cael eu hysbysebu’n ffurfiol ddechrau mis Awst, i roi cyfle i bobl wneud sylw am bob ffordd y cynigir ei chadw’n ffordd 30mya.  Rhoddir cyhoeddusrwydd i’r eithriadau hyn yn y wasg leol, ar wefan Cyngor Sir y Fflint, ac ar hysbysiadau safle a osodir yn lleoliadau’r cynigion.   

  • Ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya ym mis Medi, bydd cymunedau lleol yn gallu cyflwyno awgrymiadau eraill i’w hystyried drwy wefan y Cyngor.  Rhoddir gwybod ynglyn â sut fydd preswylwyr yn gallu gwneud hyn yn nes at yr amser. 

Dechrau cael gwared â marciau ffordd a pharatoi ar gyfer arwyddion newydd.  

  • Mae deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn golygu bod rhaid cael gwared â rhywfaint o farciau ffordd.  Dros yr wythnosau nesaf bydd preswylwyr yn gweld gweithwyr yma ac acw ledled y sir yn gwneud y gwaith hwn.  Bydd hyn yn cynnwys cael gwared â marciau ffordd 20mya a gyflwynwyd yn rhan o Gynllun Aneddiadau Cam 1 ym Mwcle a’r ardaloedd cyfagos.  Nid yw’r ffaith ein bod yn cael gwared â’r marciau ffordd hyn – boed yn 20mya neu’n 30mya – yn golygu nad oes cyfyngiadau cyflymder yn yr ardaloedd hynny.  Mae’n golygu bod y sir yn paratoi ar gyfer cyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya ledled Cymru ym mis Medi.  

Cynyddu hyd polion goleuadau stryd.   

  • Dan y ddeddfwriaeth newydd bydd cyfres barhaus o bolion goleuadau stryd yn dangos eich bod mewn ardal 20mya, oni bai bod arwydd yn dangos fel arall.  Lle bo’r angen, mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio i ymestyn hyd polion goleuadau stryd fel eu bod yn ymestyn ar hyd ffordd gyfyngedig yn ei chyfanrwydd.

Mae mwy o wybodaeth, gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin, ynglyn â chyfrifoldeb y Cyngor i sicrhau bod ffyrdd lleol yn barod ar gyfer deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru ar 17 Medi ar gael yma: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/20mph/Home.aspx

Gall preswylwyr sy’n methu cael mynediad at yr wybodaeth ar-lein y cyfeiriwyd ati uchod ymweld ag un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu rhwng 9am a 4.30pm ar y diwrnodau a restrir isod:

  • Bwcle – dydd Mawrth neu ddydd Iau
  • Cei Connah, y Fflint neu Dreffynnon – dydd Llun i ddydd Gwener
  • Yr Wyddgrug – dydd Llun, dydd Mercher neu ddydd Gwener