Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gorchmynion Rheoleiddio Traffig - Ymgynghoriad Statudol 

Published: 21/07/2023

Er mwyn paratoi ar gyfer gweithredu deddfwriaeth 20mya newydd Llywodraeth Cymru ar 17 Medi 2023, mae Cyngor Sir y Fflint wedi cynnal asesiad o ffyrdd lleol yn erbyn y canllawiau cenedlaethol cyfredol dros y misoedd diwethaf.   

O ganlyniad i’r asesiad hwn, mae adrannau o nifer fechan o ffyrdd wedi cael eu nodi fel rhai lle gellir cynyddu’r terfynau cyflymder presennol yn uwch na 30mya.   Lleoliadau’r cynigion hyn yw:  

• Bwcle - Padeswood Road South, Bannel Lane, Drury Lane a New Road Drury

• Talacre – Station Road 

Agorwyd proses ymgynghori ffurfiol ar y newidiadau arfaethedig hyn ddydd Gwener, 21 Gorffennaf 2023, am gyfnod Ymgynghori Statudol o 3 wythnos. 

https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Traffic-regulation-orders.aspx Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y newidiadau arfaethedig a sut i gynnig sylwadau arnynt ar Wefan y Cyngor. Mae’r cynigion wedi cael eu hysbysu yn y papur newydd lleol a bydd hysbysiadau hefyd yn cael eu harddangos yn lleoliadau’r cynigion.  Bydd pecyn gwybodaeth ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd yng Nghanolfannau Cyswllt Bwcle rhwng 9am a 4:30 ar ddydd Mawrth a dydd Iau ac yng Nghanolfan Gyswllt Treffynnon rhwng 9am a 4:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. 

Gan ddefnyddio meini prawf eithriadau 20mya Llywodraeth Cymru, a gan weithio’n agos gyda Chynghorwyr Sir lleol, mae 15 ffordd arall wedi cael eu nodi fel rhai y gellid eu dychwelyd i 30mya yn dilyn cyflwyno 20mya ym mis Medi.   Gellir gweld y ffyrdd hyn ar https://mapdata.llyw.cymru/maps/roads-affected-by-changes-to-the-speed-limit-on-re/   

Bydd y broses ymgynghori ffurfiol ar yr eithriadau arfaethedig hyn yn dechrau ym mis Awst.