Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Eithriadau 20 mya wedi eu cadarnhau

Published: 22/09/2023

Er mwyn paratoi ar gyfer gweithredu deddfwriaeth 20mya newydd Llywodraeth Cymru ar 17 Medi 2023, mae Cyngor Sir y Fflint wedi cynnal asesiad o ffyrdd lleol yn erbyn y canllawiau cenedlaethol cyfredol.   

O ganlyniad i’r asesiad hwn canfuwyd y canlynol:

  • rhannau o nifer fechan o ffyrdd ble gellir cynyddu’r terfynau cyflymder presennol yn uwch na 30mya, a
  • rhannau o ffyrdd a ellir eu hystyried yn ‘eithriadau’ i ddeddfwriaeth 20mya newydd Llywodraeth Cymru.

Yn gynharach yr haf hwn bu i Gyngor Sir y Fflint ymgynghori’n ffurfiol gyda’r cyhoedd ar y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn ymwneud â’r ffyrdd hyn.

Mae ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad bellach wedi eu hystyried yn rhannol ac mae canlyniad y broses ffurfiol statudol wedi pennu y bydd y darnau canlynol o ffyrdd yn newid fel yr amlinellir isod. 

Rhannau o ffyrdd i gynyddu i 40mya

·      Drury Lane, Bwcle

·      Bannel Lane Bwcle - mae graddau’r cynnig wedi eu byrhau

·      Padeswood Road South, Bwcle

·      Station Road, Talacre - mae graddau’r cynnig wedi eu byrhau

 

Rhannau o ffyrdd sy’n bodloni meini prawf ‘Eithriadau’ 20mya Llywodraeth Cymru ac a fydd yn mynd yn ôl i 30mya

·      A549 Ffordd yr Wyddgrug, Mynydd Isa

·      A549 Ffordd Caer / Dirty Mile - Little Mountain, Bwcle

·      B5127 Ffordd Lerpwl, Bwcle

·      B5128 Ffordd yr Eglwys, Bwcle

·      Drury Lane, Bwcle

·      Parc Dewi Sant, Ewlo - mae graddau’r cynnig wedi eu byrhau.

·      A541 Ffordd Dinbych, yr Wyddgrug

·      A5104 Cyfnewidfa Warren Bank, Brychdyn

·      A5026 Holway Road, Treffynnon

·      B5121 Ffordd Maes Glas, Treffynnon

·      B5129 Kelsterton Road, Kelsterton

·      B5129 Cylchfan Queensferry

 

Mae manylion llawn rhannau o’r ffyrdd a restrir uchod, ble fydd terfynau cyflymder yn newid, ar wefan y Cyngor.

Ni fydd y terfynau cyflymder diwygiedig yn y lleoliadau a restrir uchod yn dod i rym nes bydd yr holl arwyddion priodol wedi eu gosod ar y safle.  Gwneir y gwaith hwn dros yr wythnosau nesaf.