Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dewch i Siarad: Byw yn Sir y Fflint

Published: 16/09/2025

Mae Dewch i Siarad: Byw yn Sir y Fflint yn arolwg ar-lein newydd ar gyfer preswylwyr lleol, wedi’i gynnal gan Data Cymru ar ran Cyngor Sir y Fflint. 

 

Ar gyfer pobl sy’n byw yn Sir y Fflint, agorwyd yr arolwg ar 15 Medi a bydd yn dod i ben ar 9 Tachwedd 2025.

 

Trwy gymryd rhan yn yr arolwg, bydd preswylwyr yn helpu Cyngor Sir y Fflint i ddeall y pethau hyn yn well: 

 

• Beth sy'n bwysig iddyn nhw 

• Eu profiad o’u hardal leol 

• Sut maen nhw’n gweld y Cyngor a rhyngweithio â’r Cyngor 

 

Gall preswylwyr nad ydynt yn gallu llenwi’r arolwg ar-lein fynd i unrhyw un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu lle bydd modd cael cefnogaeth.   Mae’r oriau agor ar wefan y Cyngor or by calling 01352 703020.  

 

Bydd cymorth hefyd ar gael ar Lyfrgell Deithiol Gwella ar y dyddiadau canlynol:  30 Medi / 2, 15, 27, 22, 24 Hydref / 4, 6 Tachwedd 2025 

 

Meddai’r Cynghorydd Dave Hughes, Arweinydd y Cyngor:  

“Mae mantoli cyllidebau â disgwyliadau’r cyhoedd yn heriol i bob sefydliad sector cyhoeddus ac mae deall barn a safbwyntiau pobl leol a rhoi cyfle iddynt ddweud eu dweud wrth helpu i ddarparu gwelliannau lle bo’n bosibl, yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor.

 

“Nid yn unig y bydd yr arolwg yn canfod barn pobl rwan yn 2025, ond trwy ofyn yr un cwestiynau i bobl dros amser, bydd y Cyngor yn gallu cymharu canlyniadau a nodi lle mae pethau wedi gwella a lle sydd angen gwneud rhagor o waith.  

 

“Byddwn yn annog preswylwyr i gymryd rhan a dweud eu dweud.”

 

Mae rhagor o wybodaeth a dolen i’r arolwg ar gael ar wefan y Cyngor www.siryfflint.gov.uk/dewchisiarad