Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn sicrhau £5 miliwn ar gyfer gwelliannau priffyrdd
Published: 29/09/2025
Mae rhaglen fawr o waith cynnal a chadw a gwella ffyrdd yn mynd rhagddi yn Sir y Fflint. Mae’r rhaglen, sydd wedi cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn anelu i gyflymu’r broses o atgyweirio ein rhwydwaith priffyrdd lleol.
Mae’r Fenter Benthyca Llywodraeth Leol newydd yn darparu £10m o gyllid refeniw ychwanegol i gynghorau lleol i'w galluogi i ddatgloi £120m o gyllid cyfalaf ychwanegol i gyflymu'r broses o drwsio ein ffyrdd a'n palmentydd lleol. Nod y fenter yw cynyddu faint o waith ail-wynebu ac atgyweirio tyllau mewn ffyrdd sy’n cael ei gwblhau ar draws holl awdurdodau lleol Cymru, gan ganolbwyntio ar y ffyrdd sydd fwyaf angen sylw.
Mae Sir y Fflint wedi sicrhau £5.66m o’r fenter ar gyfer gwaith cynnal a chadw ffyrdd dros y ddwy flynedd nesaf gyda rhaglen waith wedi’i datblygu i wella arwyneb amryw o ffyrdd yn y sir, gyda buddsoddiad sylweddol wedi’i gynllunio. Bydd y rhaglen yn cael ei rhannu’n ddau gam a bydd y cyllid yn cael ei rannu dros ddwy flynedd ariannol: 2025-2026 a 2026-2027.
Bydd cam cyntaf y rhaglen £2.7m i roi wyneb newydd ar ffyrdd yn dechrau wythnos yma gyda gwaith wedi’i gynllunio mewn 26 o leoliadau ac ail gam arall wedi’i gynllunio’n ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol. Dechreuodd y rhaglen o drwsio’r ffyrdd cerbydau ym mis Awst 2025, sy’n rhaglen £1.2 miliwn eleni, a bydd yn parhau dros gyfnod o ddwy flynedd, gyda’r gwaith trin arwynebau ar gyfer 2025 eisoes wedi’i gwblhau, gan gyflawni £0.450m o welliannau i’r rhwydwaith ffyrdd.
Dywedodd y Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd: “Rydym yn croesawu’r cyllid hwn a fydd yn ein galluogi ni i fynd i’r afael â’r ôl-groniad sylweddol o waith adeiladu a chynnal a chadw sydd angen ei wneud ar ffyrdd ar draws y sir. Rydym yn gwybod bod hyn yn flaenoriaeth i’n preswylwyr a’n cymunedau lleol, ac mae’n hanfodol ein bod yn cadw ein ffyrdd yn ddiogel ac mewn cyflwr da.”
Mae’r rhaglenni yn ymwneud â thriniaethau strwythurol ac wyneb i ffyrdd cerbydau a throedffyrdd yn cael eu blaenoriaethu o ddata arolwg cyflwr blynyddol ac archwiliad gweledol i wella isadeiledd priffyrdd o fewn Sir y Fflint.
Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen o waith gwella priffyrdd ar gael ar wefan Sir y Fflint a bydd camau pellach yn cael eu cyhoeddi maes o law.
https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Highway-Improvement-Works-Information.aspx