Y rhwydwaith priffyrdd yw isadeiledd asedau mwyaf gwerthfawr y Cyngor, gydag asedau ffyrdd cerbydau a throedffyrdd werth dros £1 biliwn. Mae sicrhau bod y rhwydwaith priffyrdd mewn cyflwr diogel a da yn hanfodol ar gyfer cynnal cysylltedd economaidd a chymdeithasol, o fewn Sir y Fflint a gyda’r rhanbarth ehangach, ac mae’r rhwydwaith yn ased hanfodol, sy’n rhan annatod o fywydau bob dydd ein preswylwyr, p’un a bod hynny ar gyfer teithio i’r gwaith, mynychu’r ysgol, cael mynediad at wasanaethau neu fwynhau gweithgareddau hamdden.
Mae cynnal ein rhwydwaith priffyrdd i safon ddiogel a phriodol yn her sylweddol, yn enwedig yn ystod adegau ariannol anodd. Mae’n hanfodol ein bod ni’n rheoli ein hisadeiledd priffyrdd yn effeithlon, gan gydbwyso’r anghenion uniongyrchol â chynaliadwyedd hirdymor. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod ein buddsoddiad heddiw yn bodloni galwadau yfory, a darparu gwerth am arian gan sicrhau diogelwch a defnyddioldeb y rhwydwaith.
Yn 2024, yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet, bu i Sir y Fflint ddiwygio ei ddull o reoli ei asedau priffyrdd (mae hyn yn cynnwys ffyrdd, llwybrau troed, goleuadau stryd, pontydd ac asedau cysylltiedig eraill fel arwyddion, llinellau/marciau ffyrdd ac ati) i gydnabod y bydd cyflwr cyffredinol y rhwydwaith priffyrdd yn parhau i ddirywio’n naturiol bob blwyddyn heb fuddsoddiad blynyddol digonol.
Wrth gydnabod y gellir ond lleihau’r ôl-groniad presennol o waith cynnal a chadw strwythurol ar ffyrdd cerbydau a throedffyrdd drwy fabwysiadu dull strategol hirdymor i wella isadeiledd priffyrdd, mae Cyngor Sir y Fflint, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, wedi mabwysiadu dull Cymru gyfan at y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd.
Mae fframwaith y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn darparu’r egwyddorion ar gyfer rheoli’r rhwydwaith, cydnabod pwysigrwydd yr isadeiledd priffyrdd o ran cefnogi nifer o amcanion allweddol y Cyngor ac mae’r cynllun diwygiedig yn amlinellu ein dull strategol ar gyfer rheoli’r asedau dros y 5 mlynedd nesaf (2024-2029). Ein nod yw sicrhau bod yr ased yn cael ei gynnal a chadw’n effeithiol, effeithlon ac yn rhagweithiol i sicrhau cyflwr diogel a da i gefnogi amcanion allweddol y Cyngor.
Mae’r Cyngor yn gweithredu trefn arolygu a gymeradwywyd ar gyfer yr holl asedau sy’n sicrhau bod y cyllid sy’n cael ei ddyrannu i bob elfen yn ddigonol i sicrhau bod yr ased yn ddiogel ac yn addas i bwrpas ac felly’n sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’n gofyniad statudol i gynnal y rhwydwaith. Felly bydd angen dyrannu unrhyw gyllid sydd ar gael yn ofalus i ddarparu’r buddion mwyaf. Mae’r holl ffyrdd yn cael eu harolygu i ddatblygu rhaglenni ar gyfer rhaglenni rhoi wyneb newydd, trin arwynebau a thrwsio bob blwyddyn, gan sicrhau bod y defnydd mwyaf effeithiol o gronfeydd yn cael ei ddyrannu i’r ardaloedd hynny sydd angen y gwaith cynnal a chadw cywiro neu ataliol fwyaf.
Mae cynllun y Cyngor ar gyfer yr ased priffyrdd ar gyfer y cyfnod 2024 i 2029 yn cydnabod y cyfyngiadau ariannol y mae’r awdurdod lleol yn gweithio oddi fewn iddynt. Mae’r cynllun yn targedu’r gofyniad i sicrhau diogelwch defnyddwyr ac yna’n lliniaru yn erbyn dirywiad.
Sicrhau ymdrech ar y cyd i leihau namau ar ffyrdd fydd y flaenoriaeth o 2024 i 2026.
Ar ddiwedd y cyfnod hwn, bydd adolygiad yn cael ei wneud i ystyried canlyniadau’r gwaith i ymchwilio a oes angen unrhyw waith amddiffyn rhag erydu ar bontydd penodol, a oes angen cryfhau rhai pontydd ac a oes angen cynyddu buddsoddiad mewn disodli polion goleuadau stryd sydd wedi heneiddio.
Nid yw’r cynllun yn cynnwys safleoedd bysiau, pontydd a ffyrdd preifat, pontydd sy’n eiddo i’r Cyngor nad ydynt ar, nac yn croesi’r rhwydwaith priffyrdd a goleuadau tymhorol, addurniadol.
Mae’r fethodoleg ganlynol yn egluro’r egwyddorion sy’n deillio i flaenoriaethu rhaglenni gwaith cynnal a chadw wedi eu cynllunio:
- Asesiad mecanyddol a gweledol o isadeiledd y ffordd gerbydau yn flynyddol. Y wybodaeth a ddehonglir gan System gyfrifiadurol Dadansoddi Palmentydd y Deyrnas Unedig (UKPMS) i ddangos lefel dirywiad ffyrdd unigol.
- Asesiad gweledol o isadeiledd y droedffordd yn flynyddol. Y wybodaeth sy’n cael ei mewnbynnu i system rheoli data i roi syniad o lefel dirywiad llwybrau troed unigol.
- Yna mae allbwn gan arolygon cyflwr ffyrdd cenedlaethol (UKPMS a ffynonellau data eraill) yn ddarostyngedig i ddadansoddiad peirianyddol i ddarparu strategaethau hirdymor ar gyfer gwella sy’n cymryd cynlluniau corfforaethol i ystyriaeth ar gyfer datblygiad economaidd a phreswyl, cynllunio cludiant rhanbarthol, anghenion ar sail cymuned ac ystadegau damwain lleol.
- Mae gwaith yn cael ei flaenoriaethu gan ddefnyddio data cyflwr, risg i ddiogelwch, ac egwyddorion costau gydol oes. Mae hyn yn golygu ein bod yn cydbwyso atgyweiriadau i’r ardaloedd gwaethaf gyda thriniaethau ataliol er mwyn ymestyn bywyd ffyrdd, ac osgoi gwaith atgyweirio drytach yn y dyfodol.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae mwy o bwyslais ar gynnal ffyrdd lleol (diddosbarth), lle mae’r cyflwr wedi dirywio yn sgil tanfuddsoddi hanesyddol. Mae hyn yn golygu nad yw rhai ffyrdd yn cael eu trin mor gyson pan mae’r bwlch hwn yn cael ei ddatrys.
Mae’r Cyngor yn gweithredu archwiliad diogelwch wedi’i ddiffinio a chynllun atgyweirio, gyda namau risg uchel yn cael eu gwneud yn ddiogel o fewn 2 awr, a gwaith atgyweirio diogelwch eraill yn cael eu cwblhau o fewn 24 awr, yn unol â’r canllawiau cenedlaethol. Gall cynnydd mewn digwyddiadau tywydd garw effeithio ar y rhwydwaith, a gofyn am ymateb brys. Gall hyn arwain at newidiadau i’r rhaglen a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn. Yn ychwanegol at roi wyneb newydd ar ffyrdd, mae’r Cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn draeniau, goleuadau stryd, strwythurau, a signalau traffig er mwyn sicrhau bod y rhwydwaith priffyrdd ehangach yn ddiogel ac yn weithredol.
Mae dull costau oes cyfan yn cael ei ddefnyddio i benderfynu ar raglenni ar gyfer dulliau amrywiol o brosesau gwella h.y.
- Gwelliannau strwythurol ar ffurf ailadeiladu lle mae lefel dibrisiad yr ased yn fawr. Mae costau cysylltiedig â’r math yma o welliant yn uchel ac mae’n arferiad costau oes cyfan i gyflwyno rhaglenni trin arwyneb yn ystod camau cynnar dirywiad i ymestyn oes ased i leihau’r lefel o waith ailadeiladu sy’n rhoi pwysau mawr ar gyllid sydd ar gael.
- Disodli neu gryfhau arwyneb.
- Trin arwyneb ffordd i ailsefydlu gweadau arwyneb neu ymestyn oes arwyneb drwy ddiogelu cwrs arwyneb sy’n dangos arwyddion cynnar o ddirywiad drwy golli agregad / glynwr.
- Ailadeiladu arwyneb ffordd gerbydau sy’n strwythurol gadarn ond sy’n dangos colled ymwrthedd llithro drwy sgleinio’r agregad o fewn y cwrs arwyneb.
- Er mwyn gwneud y mwyaf o fuddion cost adnoddau ariannol mae’n rhaid ystyried y budd i gymunedau drwy gydnabod ardaloedd economaidd a chymdeithasol lleol o weithgaredd ble mae ffyrdd ar lefel tebyg o ddirywiad o dan ystyriaeth ac adnoddau yn gyfyngedig. Er enghraifft, bydd llwybr troed sy’n agos at ardal siopa fawr neu ysgol yn cael blaenoriaeth dros lwybr troed tebyg mewn ardal wledig sydd â lefelau isel o bobl yn cerdded.
- O wybod y lefelau ariannu presennol, nid yw’n bosibl atal pob dirywiad ar draws y rhwydwaith. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar gadw’r rhwydwaith yn ddiogel ac yn weithredol, gan reoli’r cyflwr hirdymor mor effeithiol â phosib.
Mae’r categorïau canlynol wedi eu cynnwys yn y rhestr o gynlluniau wedi eu rhaglennu i nodi’r ffactorau sy’n cefnogi eu cynnwys yn y rhaglen (Rheswm dros y Gwaith yn y tablau isod):
- Nodwyd drwy broses arolwg cyflwr.
- Nodwyd drwy ymchwiliadau damwain fel bod yn safle clwstwr damweiniau neu’n ddarostyngedig i brofion gwrthiant sgid isel (Peiriant Ymchwilio Arferol Cyfernod Grym Tua’r Ochr (SCRIM)).
- Yn ddarostyngedig i waith adfer cynnal a chadw uchel.
Sylwer: Er y gwnaed pob ymdrech i gyflawni rhaglen ddiffiniol fydd yn darparu rheolaeth effeithiol o’r asedau priffyrdd, gall fod yn destun newid mewn cynnwys a manylion drwy’r flwyddyn. Gall newidiadau o’r fath godi o’r angen i fynd i’r afael â galwadau cynnal a chadw annisgwyl sy’n codi yn ystod y flwyddyn e.e. gwaith cyfleustodau cyhoeddus brys, y tywydd ac addasiadau i’r gyllideb.