Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol toiledau cyhoeddus yn Nhreffynnon, yr Wyddgrug a Thalacre
Published: 05/11/2025
Mae Cyngor Sir y Fflint yn ceisio barn y cyhoedd a busnesau lleol am ddyfodol toiledau cyhoeddus yn Nhreffynnon, yr Wyddgrug a Thalacre.
Ym mis Rhagfyr 2024, wrth gynllunio ein cyllideb ar gyfer 2025/26, roedd y Cyngor yn rhagweld y byddai ei gostau rhedeg o ddydd i ddydd yn cynyddu £47.5 miliwn oherwydd sawl ffactor y tu hwnt i’n rheolaeth. Roedd hyn llawer mwy na’r incwm a ragwelwyd y byddem yn ei dderbyn o’n grant blynyddol gan Lywodraeth Cymru, Treth y Cyngor a ffioedd a thaliadau am ein gwasanaethau.
Ym mis Chwefror 2025, llwyddodd Cyngor Sir y Fflint i bennu ei gyllideb ar gyfer 2025/26. Doedd hyn ddim yn hawdd, ac fe gymerodd sawl mis i’w gynllunio. Er mwyn cau bwlch cyllidebol mor fawr, bu’n rhaid ystyried nifer o ddewisiadau anodd iawn. Roedd hyn yn cynnwys lleihau’r gyllideb i redeg ein toiledau cyhoeddus, gyda’r bwriad o ddod o hyd i ffyrdd eraill o ddarparu mynediad i doiledau yn y lleoliadau yma.
Er nad oes yna ofyniad cyfreithiol bod Cynghorau Sir yng Nghymru yn darparu toiledau cyhoeddus, o dan Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017, mae’n rhaid iddynt lunio Strategaeth Toiledau Lleol sy’n nodi sut y gall pobl ddefnyddio toiledau yn y gymuned. Mae Strategaeth Toiledau Sir y Fflint ar gael ar ei wefan.
Bellach, ni all Cyngor Sir y Fflint fforddio i barhau i redeg y toiledau cyhoeddus yma, ac mae’n agored i weithio gyda grwpiau gwirfoddol neu grwpiau cymunedol, cynghorau tref neu gymuned, busnesau, sefydliadau, neu unrhyw gyfuniad o bob un, i gael syniadau i barhau i gynnal mynediad i gyfleusterau toiledau cyhoeddus yn yr ardaloedd yma.
Meddai’r Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Ted Palmer:
“Mae’n debygol bod preswylwyr a busnesau Sir y Fflint wedi gweld llawer o straeon yn y wasg yn gynharach eleni am gynlluniau’r Cyngor i gau toiledau cyhoeddus yn Nhreffynnon, yr Wyddgrug a Thalacre.
“Er y gwnaed y penderfyniad anodd iawn i leihau’r gyllideb, ni fu yna erioed fwriad i gau’r toiledau yma, ond yn hytrach, i weithio’n agos gyda phreswylwyr, busnesau, ymwelwyr, trefi a chymunedau i ddod o hyd i ffyrdd i bobl allu defnyddio’r toiledau tra’u bod allan yn y lleoliadau yma.
“Er y bydd y toiledau yn Nhreffynnon, yr Wyddgrug a Thalacre yn parhau ar agor hyd nes y deuir o hyd i ddatrysiadau, ni allwn fforddio i’w cadw nhw ar agor am byth, felly mae arnom angen i bobl gymryd rhan a rhannu syniadau a siarad am sut y gellir eu cadw ar agor heb gyllid y Cyngor.”
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng dydd Mercher 5 Tachwedd a dydd Mawrth 2 Rhagfyr 2025 a bydd yn agored i bawb gael dweud eu dweud.
Ceir mwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar wefan y Cyngor www.siryfflint.gov.uk/ ToiledauCyhoeddus2025
Gall preswylwyr nad ydynt yn gallu llenwi’r arolwg ar-lein fynd i unrhyw un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu lle bydd modd cael cefnogaeth. Mae’r oriau agor ar wefan y Cyngor.