Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor yn cadarnhau 38 o ffyrdd i’w hysbysebu ar gyfer terfyn cyflymder 30mya
Published: 20/11/2025

Mae Cyngor Sir y Fflint bellach wedi cwblhau asesiadau ar yr holl ffyrdd di-ddosbarth a’r ffyrdd dosbarth C a gyflwynwyd gan breswylwyr i’w hystyried ar gyfer newid yn ôl i derfyn cyflymder 30mya.
Yn dilyn adolygiadau manwl yn erbyn meini prawf newydd Llywodraeth Cymru, mae 38 ffordd arall wedi’u nodi fel ffyrdd addas i symud ymlaen i’r cam nesaf. Bydd y newidiadau arfaethedig hyn yn cael eu hysbysebu’n ffurfiol dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, gan roi cyfle i breswylwyr weld y cynigion a chyflwyno sylwadau fel rhan o’r broses ymgynghori statudol.
Yn gynharach eleni, newidiodd y Cyngor chwech o ffyrdd dosbarth A a B, sy'n bodloni meini prawf Llywodraeth Cymru, yn ôl i 30mya yn dilyn ymgynghoriad.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant, y Cynghorydd Glyn Banks: “Rydym eisiau diolch i breswylwyr am eu hymgysylltiad â’r broses hon. Mae eu gwybodaeth leol wedi bod yn amhrisiadwy wrth asesu pa ffyrdd y gellid eu newid yn ôl i 30mya.
“Derbyniodd y Cyngor dros 1,000 o geisiadau gan y cyhoedd. Roedd yn rhaid asesu pob ffordd a gyflwynwyd yn erbyn y meini prawf newydd ac mae’r gwaith hwn wedi cymryd cryn dipyn o amser i’w gwblhau. Rwy’n gwybod bod y broses hon wedi cymryd mwy o amser na’r hyn yr oedd llawer o breswylwyr wedi’i obeithio, felly hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am eu hamynedd.
“Y cam nesaf yw ymgynghori’n ffurfiol ar y cynigion ac rydym yn annog cymunedau i leisio eu barn.”
Bydd y Cyngor yn cyhoeddi pob un o’r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig arfaethedig ar ei wefan wrth iddynt gael eu hysbysebu - dysgwch fwy yma.