Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysgolion Sir y Fflint yn Cymryd Rhan yn Wythnos Hinsawdd Cymru
Published: 27/11/2025
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi dod â Newid Hinsawdd ac Ysgolion ynghyd unwaith eto ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru 2025.
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn ddigwyddiad blynyddol a drefnir gan Lywodraeth Cymru i annog pobl a sefydliadau ar draws y wlad i archwilio, hyrwyddo, a dathlu gweithredoedd i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Cynhaliwyd yr wythnos eleni o 3-7 Tachwedd 2025.
Gan adeiladau ar y Pecynnau Gwaith Hinsawdd i Ysgolion a lansiwyd yn 2024, defnyddiodd Cyngor Sir y Fflint yr wythnos i rannu gwybodaeth a hyrwyddo gweithgarwch mewn ysgolion ar draws y themâu Newid Hinsawdd, Ynni, Symudedd a Chludiant, Gwastraff ac Ailgylchu, a Bioamrywiaeth.
Yn ystod pob diwrnod o’r wythnos, gwahoddwyd yr ysgolion i ymuno â ffrwd fyw a oedd yn cyflwyno thema’r diwrnod, gan egluro sut yr oedd yn ymwneud â Newid Hinsawdd, a gweithgareddau ar gyfer yr ystafell ddosbarth a’r cartref lle’r oedd pobl ifanc yn dysgu’n uniongyrchol am gynhesu byd-eang a’r hyn sydd angen ei wneud i fynd i’r afael â’r mater. Yn ystod y ffrydiau byw, roedd llawer o ysgolion a’u dosbarthiadau’n bresennol, gan ddod â bron i 200 o ddysgwyr gyda nhw. Mae deunyddiau ar gyfer gwneud gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth a gartref wedi cael eu lawrlwytho gannoedd o weithiau o wefan y Cyngor.
Roedd gweithgareddau ar gyfer yr ysgolion a’r cartref yn cynnwys arbrawf i greu ac arsylwi effeithiau nwyon ty gwydr mewn cynhwysydd wedi cau, awgrymiadau ar sut i fod yn Arwyr Ynni i asesu, monitro a lleihau defnydd ynni mewn ysgolion, ymchwilio i’r llygredd y tu allan i’r ysgolion a hyrwyddo’r filltir ddyddiol, bingo ailgylchu a gwneud lle i natur ffynnu.
I gynnal y digwyddiad hwn, daeth sefydliadau a gwasanaethau Cyngor Sir y Fflint yn cynnwys Ysgolion Iach, Newid Hinsawdd, Ynni Annomestig, Hawliau Tramwy, Gwastraff ac Ailgylchu, Bioamrywiaeth, Datblygu Chwarae, Technoleg Gwybodaeth, Cyfathrebu, NEWydd a Walk Wheel Cycle Trust Cymru, ynghyd gan gydweithio ar y deunyddiau sydd ar gael i’w lawrlwytho a darpariaeth y ffrydiau byw.
Yn dathlu’r digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: “Mae ennyn diddordeb pobl ifanc mewn newid hinsawdd yn hanfodol i ddatblygu’r sgiliau gwyrdd a’r wybodaeth sy’n sicrhau bod gweithredu i leihau allyriadau carbon yn digwydd heddiw ac yn y dyfodol. Braf yw gweld amrywiaeth o swyddogion a sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu ar gyfer ysgolion. Mae’n arwydd clir bod gan newid hinsawdd effaith eang, ond gyda hynny fe ddaw ystod o gamau gweithredu a chyfleoedd y gallwn elwa ohonynt yn ein cymdeithas.”
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn awr wedi dod i ben tan 2026, ond anogir busnesau, cymunedau, ysgolion a phreswylwyr fel ei gilydd i gymryd y cyfle hwn i weithio tuag at gymdeithas carbon isel, lle gall pobl elwa o gostau ynni is, aer glanach a gwell mynediad at natur.
Ewch i dudalen we Newid Hinsawdd Cyngor Sir y Fflint a Gweithredu ar Hinsawdd Cymru i ganfod digonedd o gyfleoedd i weithredu ar newid hinsawdd.