Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghoriadau newydd ar gynigion i ad-drefnu ysgolion ar agor
Published: 16/06/2026
Mae ymgynghoriadau newydd ar ddwy set o gynigion i ad-drefnu ysgolion wedi cael eu lansio gan Gyngor Sir y Fflint.
Mae’r Cyngor yn ceisio barn am y cynnig i gau Ysgol Gynradd Gatholig Sant Anthony ac uno Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant, Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn i greu ysgol newydd 3-18 oed.
Mae ymgynghoriad ar wahân yn ceisio barn ar y cynnig i uno Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood.
Cynhaliwyd ymarferion ymgynghori blaenorol ar yr un cynigion yn ystod 2025, ond gohiriwyd y prosesau ym mis Mawrth 2026 pan ddaeth her gyfreithiol hwyr i law mewn perthynas â phroses ymgynghori’r Ysgolion Catholig a allai fod wedi golygu goblygiadau ar gyfer ymgynghoriad Saltney hefyd.
Ceisiodd y Cyngor gyngor cyfreithiol mewn ymateb i hynny, fodd bynnag, roedd yr amser oedd ei angen i ystyried y cyngor hwnnw yn golygu nad oedd posib bodloni amserlenni statudol.
Yn dilyn yr adolygiad, cytunodd Cabinet y Cyngor i ailgychwyn yr ymgynghoriadau ar y cynigion gwreiddiol.
Mae’r newidiadau’n cael eu cynnig wrth i’r Cyngor geisio lleihau nifer y lleoedd gwag yn yr ysgolion dan sylw heb eu llenwi’n gyson yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r Cyngor yn credu y byddai’r cynlluniau hefyd yn cyflwyno cyfleoedd i gryfhau trefniadau arweinyddiaeth ysgolion, gwella’r amgylchedd dysgu ar gyfer disgyblion a gwneud y mwyaf o’r buddsoddiad ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Byddai unrhyw gynigion, pe byddent yn cael eu cymeradwyo yn dilyn cwblhau’r prosesau statudol gofynnol, yn cael eu gweithredu erbyn Medi 2027. Byddai hyn yn cynnwys cau Sant Anthony, gyda’r ysgol Gatholig newydd yn gweithredu ar y safleoedd sy’n weddill nes mae’r ysgol newydd wedi cael ei hadeiladu ar safleoedd Sant Richard Gwyn a’r Santes Fair yn y Fflint.
Yn yr un modd, byddai’r ysgol gynradd newydd yn Saltney yn gweithredu ar draws y ddau safle nes mae adeilad newydd yr ysgol wedi’i chwblhau ar dir yn Saltney Wood.
Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: “Mae’r cynigion hyn wedi cael eu datblygu mewn ymateb i niferoedd newidiol disgyblion, a’r angen i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau, gan sicrhau bod disgyblion yn parhau i gael mynediad at amgylcheddau a chyfleoedd addysgol o safon uchel.
“Er bod y broses flaenorol yn destun her gyfreithiol, nid yw’r cynigion eu hunain wedi newid.
“Mae’n bwysig bod pawb sydd â diddordeb yn nyfodol yr ysgolion a effeithiwyd yn cael y cyfle i rannu eu barn, a byddaf yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.”
Mae’r ddau ymgynghoriad ar agor nes 29 Gorffennaf. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma neu e-bostiwch catholiceducationconsultation@flintshire.gov.uk neu saltneyconsultations@flintshire.gov.uk.