Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflwyno ffioedd parcio ym Mharc Gwepra

Published: 24/07/2026

Caiff ffioedd parcio eu cyflwyno ym Mharc Gwepra wythnos nesaf i helpu i reoli a chynnal mynediad at un o fannau gwyrdd mwyaf poblogaidd Sir y Fflint.

Mae Parc Gwepra’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn o bob cwr o’r sir a thu hwnt.

Er bod y poblogrwydd hwn yn adlewyrchu ei bwysigrwydd fel cyrchfan ar gyfer hamdden, natur a threftadaeth, mae’r cynnydd sylweddol yn nifer y cerbydau ac ymwelwyr dros y blynyddoedd diwethaf wedi rhoi pwysau ychwanegol ar y safle a’i gyfleusterau.

Bydd incwm a gynhyrchir trwy ffioedd parcio’n cefnogi gwaith cynnal a chadw parhaus y maes parcio, gan alluogi rheolaeth well o’r safle trwy helpu i sicrhau fod llefydd yn parhau i fod ar gael ar gyfer defnyddwyr y parc ac annog pobl i beidio â pharcio am gyfnodau hir. 

Cyn cyflwyno’r ffioedd, mae mesurau rheoli traffig newydd hefyd wedi’u cyflwyno ar strydoedd cyfagos i fynd i’r afael â phryderon ynghylch dadleoli parcio.

Daw’r ffioedd newydd i rym o ddydd Llun, 27 Gorffennaf, 7 niwrnod yr wythnos o 9am tan 9pm, gan gynnwys Gwyliau Banc. Bydd y ffioedd fel a ganlyn: £1 am hyd at ddwy awr, £2 am hyd at bedair awr a £4 am ddiwrnod llawn. Gellir brynu trwydded flynyddol am £50. Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais, anfonwch e-bost at parkingpermits@flintshire.gov.uk, neu ewch i siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Home.aspx

Meddai’r Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: “Mae Parc Gwepra’n un o fannau gwyrdd mwyaf gwerthfawr Sir y Fflint ac yn ased pwysig ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr. Mae angen cyflwyno’r ffioedd parcio i’n helpu i reoli’r cynnydd yn nifer y cerbydau a sicrhau bod modd parhau i gynnal y maes parcio i safon uchel.

“Rydym wedi sicrhau ein bod yn cadw’r prisiau’n isel, gan ddechrau â £1 yn unig, bydd hyn yn sicrhau fforddiadwyedd a hygyrchedd i bawb sy’n mwynhau ymweld â’r parc.”

Mae Gwasanaeth Mynediad ac Amgylchedd Naturiol y Cyngor yn gofalu am y 160 erw o goetir, mannau agored gwyrdd a chyfleusterau ymwelwyr ym Mharc Gwepra. Mae gwelliannau wedi cael eu gwneud dros y blynyddoedd diwethaf i ddarparu ar gyfer y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, gan gynnwys uwchraddio’r maes parcio gorlif yn 2021 trwy gyllid Grant Adfer Llywodraeth Cymru.