Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dirwy gan lys i dipiwr anghyfreithlon a adawodd wastraff ar stryd yn y Fflint
Published: 13/10/2026
Mae tipiwr anghyfreithlon a adawodd wastraff ar stryd breswyl wedi cael dirwy yn y llys yn dilyn erlyniad llwyddiannus gan Gyngor Sir y Fflint.
Cynhaliwyd ymchwiliad gan Swyddogion Gorfodi’r Cyngor ar ôl i’r gwastraff a adawyd yn y Fflint gael ei adrodd gan aelod o’r cyhoedd.
Methodd yr unigolyn ag ymgysylltu â Swyddogion, felly cafodd ei erlyn o dan Adran 33 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.
Meddai’r Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: “Dyma ganlyniad ardderchog arall i’r Cyngor mewn ardal lle mae gwastraff yn parhau i gael eu gadael ar y stryd heb unrhyw ystyriaeth i’r gymuned leol na’r amgylchedd.
“Dydi tipio anghyfreithlon byth yn dderbyniol. Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol, gan ei fod yn gallu achosi llygredd difrifol i’r amgylchedd, achosi perygl i iechyd y cyhoedd a niweidio bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm, yn ogystal â dargyfeirio timau yn ddiangen o wasanaethau cyhoeddus hanfodol ac arwain at gostau diangen.”
Pan mae trosedd yn cael ei chyflawni a bod digon o dystiolaeth i erlyn y troseddwr, gellir cyflwyno Rhybudd Cosb Benodedig. Serch hynny, os byddant yn methu â thalu, neu’n dewis peidio talu, bydd y Cyngor yn eu herlyn yn y llys. Os byddant yn euog, mae’n debygol y bydd y ddirwy yn llawer uwch na’r Rhybudd Cosb Benodedig gychwynnol a bydd gan y troseddwr gofnod troseddol.
Gall preswylwyr waredu eitemau o wastraff drwy wasanaeth casglu ailgylchu a gwastraff stepen drws y Cyngor neu drwy un o bump canolfan ailgylchu gwastraff y cartref Sir y Fflint. Pan fydd gennych lawer o wastraff i’w waredu, mae’r Cyngor yn argymell defnyddio cwmni llogi sgipiau cymeradwy neu gontractwr gwaredu gwastraff.
Os ydych chi’n pasio gwastraff i drydydd parti i’w waredu ar eich rhan, fe allech orfod talu Rhybudd Cosb Benodedig neu wynebu erledigaeth os yw’n cael ei waredu’n anghyfreithlon.
Gallwch adrodd achosion honedig o dipio anghyfreithlon drwy wefan y Cyngor neu drwy ffonio 01352 701234. Efallai y gofynnir i chi roi datganiad ysgrifenedig am yr hyn a welsoch chi.
Bydd yn helpu ymchwiliad y Cyngor os allwch chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol:
- Diwrnod, dyddiad ac amser y gwelsoch y tipio anghyfreithlon
- Faint o bobl oedd yno, sut roeddynt yn edrych a beth roedden nhw’n ei wneud
- Unrhyw gerbydau neu drelars - yn cynnwys y gwneuthuriad, lliw a rhif cofrestru
- Beth gafodd ei adael - faint o wastraff a sut mae’n edrych
Yna bydd y Cyngor yn archwilio’r gwastraff a adawyd, yn trefnu iddo gael ei symud, yn casglu tystiolaeth ac yn cyfweld ag unrhyw un a ddrwgdybir. Gall swyddogion ymchwilio i wastraff sydd wedi'i dipio'n anghyfreithlon ar dir preifat gyda chaniatâd perchennog y tir, a dwyn achos llys neu gyhoeddi Rhybudd Cosb Benodedig, ond cyfrifoldeb perchennog y tir fyddai clirio'r gwastraff.