Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun gwella strydoedd Glannau Dyfrdwy
Published: 30/09/2014
Mae grantiau ar gael drwy Gyngor Sir y Fflint i wella ymddangosiad allanol
siopau ac adeiladau masnachol yng nghanol trefi Cei Connah, Garden City,
Shotton a Queensferry yng Nghlannau Dyfrdwy.
Ariennir y cynllun grant i wella blaen strydoedd yng Nglannau Dyfrdwy gan
raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru sy’n neilltuo arian
er mwyn adfywio siroedd ledled Cymru.
Mae’r cynllun yn darparu grantiau i berchnogion eiddo a thenantiaid i ailwampio
blaen eu siopau a’u hadeiladau masnachol fel cam pwysig ymlaen at wella’r
profiad siopa a masnachu lleol yng nghanol trefi Glannau Dyfrdwy.
Meddai’r Cynghorydd Derek Butler, aelod o Gabinet Cyngor Sir y Fflint dros
Ddatblygiad Economaidd: “Mae’r rhaglen yn cydnabod y rôl bwysig y mae canol
trefi ac ardaloedd siopa yn eu chwarae ym mywyd y Sir. Gall stryd ddeniadol
sydd wedi’i llunio a’i rheoli’n dda wella bywiogrwydd a hyfywdra canol trefi
Glannau Dyfrdwy a denu mwy o fuddsoddiad i mewn i’r ardaloedd.”
Mae uchafswm o £15,000 ar gael i bob eiddo hyd at 50 y cant o gyfanswm cost y
gwelliannau. Mae gwybodaeth bellach a nodiadau cyfarwyddyd manwl ar gael drwy
gysylltu â Chyngor Sir y Fflint ar 01352 703223.