Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Darlith Flynyddol Pennant
  		Published: 06/10/2014
Llyfrgell a Chanolfan Ddysgu Treffynnon fydd lleoliad deunawfed Darlith 
Flynyddol Pennant nos Iau 16 Hydref am 7.30pm.
Mae Jim Perris, gohebydd, mynyddwr a hanesydd naturiol adnabyddus, wedi cael ei 
wahodd gan Gymdeithas Thomas Pennant, i gyflwyno’r ddarlith eleni dan y teitl 
‘Thomas Pennant: bywyd nodedig’.
Mae Jim yn awdur llyfrau teithio ac mae wedi byw yng Nghymru ers 1964. Mae’n 
cyfrannu at bapurau newydd a chylchgronnau mawr fel y Guardian, Daily Telegraph 
a TRO ac ymddangosodd ei lyfr ‘Climbing Essays’ ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 
yng Nghymru yn 2007.
Pwrpas Cymdeithas Pennant yw dathlu cyflawniadau a hyrwyddo astudiaethau 
pellach o fywyd Thomas Pennant, awdur llyfrau teithio a natur toreithiog a 
anwyd yn 1726 ac a oedd yn byw yn Chwitffordd, Sir y Fflint.
Mae tocynnau ar gael o lyfrgell Treffynnon am £3 yr un. Mae nifer y lleoedd yn 
gyfyngedig iawn felly fe’ch cynghorir yn gryf i archebu lle o flaen llaw i 
osgoi cael eich siomi ar y noson. Noddir y digwyddiad gan Gyngor Sir y Fflint a 
Chymdeithas Thomas Pennant.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch Lyfrgell Treffynon ar 01352 713157.