Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflyrydd pridd

Published: 14/05/2014

Mae gwasanaeth Streetscene Cyngor Sir y Fflint wedi rhoi tair tunnell o gyflyrydd pridd i helpu cynllun garddio lleol. Bydd y llwyth sgip o gyflyrydd yn gwella’r pridd yn y Ganolfan Eco yn Castle Cement yn Padeswood drwy wella ei strwythur a chynyddu’r maetholion yn barod ar gyfer plannu. Mae’r Canolfan Eco’r cwmni’n cael ei rhedeg gan ddisgyblion gydag anawsterau dysgu o Ysgol Maes Hyfryd yn y Fflint. Mae yno nifer o dwneli poli a nifer o welyau wedi’u codi, yn ogystal ag eco-ddosbarth ac ardal goediog gyda thwll tân. Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet dros Strategaeth Gwastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Rwyf wrth fy modd yn gweld y Cyngor yn cefnogi disgyblion ysgol a busnes lleol trwy ailgylchu. Bydd y cyflyrydd pridd yn helpu prosiectau’r myfyrwyr ac yn eu galluogi i ddysgu rhagor am arddio ac ecoleg cynaliadwy. Daw’r cyflyrydd o wastraff gardd a gasglwyd oddi wrth drigolion Sir i Fflint bydd defnydd da yn cael ei wneud ohono yn y Ganolfan Eco. Mae trigolion Sir y Fflint yn gallu cael cyflyrydd pridd am ddim yn wyth parc ailgylchu’r Cyngor. Mae’r cyflyrydd pridd, sy’n cyfarfod â safon PAS 100, yn cael ei gynhyrchu yng ngwaith trin y Cyngor yn y Maes Glas. Mae ar gael am ddim i drigolion ei gasglu. Y cyfan sydd raid gwneud yw dod â’ch bagiau eich hunain. Mae’r deunydd ar gael yng Nghanolfan Ail Gylchu Maes Glas ac, os oes digon ar gael, o holl ganolfannau ailgylchur Cyngor ym Mwcle, Cei Connah, y Fflint, y Hôb, yr Wyddgrug, Queensferry a Saltney. Cewch fanylion ym mhle mae’r canolfannau ac amseroedd agor newydd ar wefan y Cyngor www.flintshire.gov.uk. Llun: Disgyblion o Ysgol Maes Hyfryd gydar Cynghorydd Kevin Jones, staff Castle Cement a staff Cyngor Sir y Fflint.