Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Casgliadau Gwastraff Gardd

Published: 06/05/2020

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn casglu gwastraff gardd dros gyfnod o bythefnos yn unig - yn dechrau ddydd Llun 11 Mai - fel gwasanaeth dros dro.

Cafodd ein casgliadau gwastraff gardd rheolaidd eu hatal er mwyn i’r criwiau ganolbwyntio ar gasgliadau biniau du, gwastraff bwyd ac ailgylchu.  

Mae yna alw mawr am ailddechrau’r gwasanaeth mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Felly, rhwng dydd Llun 11 Mai a dydd Sadwrn 23 Mai, byddwn yn casglu gwastraff gardd aelwydydd sydd: 

• wedi cofrestru ar gyfer tymor 2020 ac sydd â label melyn yn sownd wrth eu biniau brown;

• wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth y llynedd ac sydd â sticer 2019 ar eu bin brown.

Os ydych chi eisoes wedi talu a chofrestru ar gyfer gwasanaeth casglu 2020, ond heb dderbyn eich label, rhowch eich cyfeirnod talu ar eich bin brown. 

Am rwan, rydym ni wedi rhoi’r gorau i gofrestru pobl ar gyfer gwasanaeth gwastraff gardd tymor 2020. 

Fel rheol caiff gwastraff gardd ei gasglu’r un diwrnod â’r ailgylchu a’r gwastraff bwyd, bob yn ail â’r casgliadau biniau du. Gallwch wirio eich diwrnodau casglu ar ein gwefan (siryfflint.gov.uk/gwirio'chdiwrnodbiniau). Gofynnwn i chi:

• sicrhau bod eich bin brown allan erbyn 7am ar eich diwrnod casglu; 

• sicrhau mai dim ond gwastraff gardd sydd yn eich bin brown;

• peidio â gadael gwastraff wrth ymyl y bin;

• golchi handlenni eich bin cyn ac ar ôl y casgliad;

• golchi eich dwylo cyn ac ar ôl cyffwrdd â’ch bin.

Ni fyddwn yn darparu gwasanaeth casgliadau wedi’u methu yn ystod y cyfnod hwn ar gyfer biniau brown heb eu gwagio.

Rydym ni’n ddiolchgar iawn am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.  

Unwaith y bydd y gwasanaeth wedi dychwelyd i’r drefn arferol, byddwn yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff gardd blwyddyn gyfan, hyd yn oed os bydd yn mynd drosodd i’r flwyddyn nesaf. Rydym ni’n ystyried gostwng y ffi ar gyfer y gwasanaeth yn 2021, i gydnabod na fydd aelwydydd wedi derbyn gwasanaeth llawn yn 2020.  

Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth gyda hyn am ein cynlluniau ar gyfer agor ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.