Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cymorth grant ar gyfer busnesau newydd

Published: 29/06/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o gefnogi busnesau newydd I ddelio gydag effaith ddifrifol y Coronafeirws.

Nid yw nifer o bobl sydd wedi dechrau busnes yn y flwyddyn ddiwethaf yn gymwys ar gyfer cymorth gan Gynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig Llywodraeth y DU.  Bydd y grant dechrau busnes newydd yn cynnig cyllid hanfodol i bobl a sefydlodd eu busnesau rhwng 1 Ebrill 2019 a 1 Mawrth 2020, gan helpu iddynt barhau i fasnachu drwy gydol y pandemig.

Bydd y grant dechrau busnes newydd yn cefnogi hyd at 2,000 o fusnesau yng Nghymru, gyda £2,500 yr un.

Bydd y ceisiadau ar gyfer y grant hwn yn agor ar 29 Mehefin, ar yr un pryd ag y bydd  cam dau y Gronfa Cadernid Economaidd yn agor ar gyfer ceisiadau.

I fod yn gymwys ar gyfer grant dechrau busnes, mae’n rhaid i fusnesau:

  • fod heb dderbyn cyllid gan Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru na’r grant ardrethi annomestig
  • wedi eu sefydlu rhwng 1 Ebrill 2019 a’r 1 Mawrth 2020 a heb fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig Llywodraeth y DU
  • fod â llai na £50,000 o drosiant
  • wedi gweld gostyngiad mewn trosiant o dros 50% rhwng Ebrill a Mehefin 2020.

Bydd yn rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais ddwy dudalen a datganiad personol gyda thystiolaeth ategol.  Gellir dod o hyd i'r ffurflen gais yma:  Cymorth grant ar gyfer busnesau newydd.