Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cefnogi busnesau lleol

Published: 09/11/2020

Mae’r Cyngor yn parhau i weithio gyda busnesau lleol i sicrhau eu bod yn manteisio ar y cylch diweddaraf o grantiau cymorth i fusnesau a ddechreuodd ar 28 Hydref. Yr wythnos hon fe gwblhawyd y dyfarniadau canlynol: 

Grantiau Ardreth Annomestig - daeth 1,577 o gasgliadau i law ac aseswyd a thalwyd 961 cais (£2.79 miliwn wedi’i ddyfarnu hyd yma).

Grantiau yn ôl Disgresiwn i Fusnesau nad ydynt yn talu Ardrethi Annomestig - daeth 473 o geisiadau i law ac aseswyd 208 cais. Bydd y taliadau yn cael eu gwneud yr wythnos nesaf (£208,000 wedi’i ddyfarnu hyd yma).

Hoffem annog busnesau i wneud cais am y grantiau yma drwy fynd i COVID-19-Cyngor-i-fusnesau. Cofiwch, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais ydi 20 Tachwedd 2020 (am 5pm). Wedi dweud hynny, bydd y gronfa’n cau’n gynt os yw’r holl gyllid wedi’i ddyrannu.

Am fwy o wybodaeth gwelwch ein datganiad i’r wasg ar 28 Hydref: Cynllun Grant Newydd ar gyfer Busnesau