Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cefnogi busnesau lleol

Published: 17/11/2020

Mae’r Cyngor yn parhau i weithio gyda busnesau lleol i sicrhau eu bod yn manteisio ar y cylch diweddaraf o grantiau cymorth i fusnesau a ddechreuodd ar 28 Hydref. Mae ystadegau diweddaraf yn dangos fod y Cyngor eisoes wedi talu grantiau gwerth £4.4miliwn: 

Grantiau Ardreth Annomestig - Mae 1,388 o geisiadau wedi eu hasesu a’u talu allan – cyfanswm dyfarniadau hyd yma yw £3.9 miliwn. 

Grantiau yn ôl Disgresiwn i Fusnesau nad ydynt yn talu Ardrethi Annomestig - Mae 300 o geisiadau wedi eu hasesu a’u talu allan – cyfanswm dyfarniadau hyd yma yw £518 mil.

Hoffem annog busnesau i wneud cais am y grantiau yma. Cofiwch, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais ydi 20 Tachwedd 2020 (am 5pm).

Am fwy o wybodaeth gwelwch ein datganiad i’r wasg ar 28 Hydref: Cynllun Grant Newydd ar gyfer Busnesau.