Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae cymorth ar gael ar wefan y Cyngor i bobl sydd yn byw gyda dementia

Published: 15/12/2020

Dementia small.jpgMae map newydd wedi’i ychwanegu ar wefan Cyngor Sir y Fflint i gefnogi pobl sydd yn byw gyda dementia yn y Sir. 

Mae’r map yn dangos lleoliadau cymunedau cyfeillgar i ddementia, caffis cof a sefydliadau a gwasanaethau sydd yn rhan o raglen busnesau cyfeillgar i ddementia sy'n cael ei gynnal drwy bartneriaid, Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCIS). 

Bydd defnyddwyr yn gallu chwilio’r map i ddod o hyd i leoliadau yn eu hardal, ochr yn ochr â gorsafoedd bysiau a chyfleusterau cymunedol eraill a all eu helpu i gynllunio eu taith. Mae opsiwn gweld y stryd ar gael hefyd, lle gall defnyddwyr weld llun o'r lleoliad, gan eu helpu i adnabod eu lleoliad a thirnodau. 

Mae’r map a chanllaw i ddefnyddwyr wedi cael ei ddatblygu o ganlyniad i syniad gan Zoe Robinson a swyddogion yn Adran TG, ar ôl mynychu sesiwn a gynhaliwyd gan hyrwyddwr cyfeillion dementia ar gyfer gweithwyr Cyngor Sir. 

Bu i bobl sydd yn byw â dementia a’u gofalwyr weithio gyda’r Cyngor a NEWCIS i ddatblygu map a chanllaw i ddefnyddwyr fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu ymhellach ymwybyddiaeth o ddementia a chefnogaeth ledled y sir.  

Dywedodd Chris Roberts, sy’n byw â dementia:

 “Mae’r prosiect hwn yn arloesol iawn a bydd yn ddefnyddiol iawn i bobl wybod lle a pha sefydliadau a fydd yn eu gwneud i deimlo’n ddiogel ac i’w deall, yn arbennig yn ystod cyfnod lle'r ydym i gyd yn teimlo’n eithaf unig ac ar ein pen ein hun.”

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

 “Mae hwn yn ychwanegiad gwych i’n gwefan yr ydym wedi’i ddatblygu i bobl sy’n byw â dementia a’u gofalwyr sydd yn cael trafferth dod o hyd i’r hyn sydd ar gael iddynt yn eu cymuned. 

 “Bydd y tudalennau yn dod ag amrediad o wybodaeth ynghyd mewn un lle, gan weithredu fel cyfeiriadur o wasanaethau cymorth. Bydd pobl sy’n byw gyda dementia a'u gofalwyr, gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ac eraill yn gallu edrych ar y map hwn i gael mynediad at wybodaeth defnyddiol.  Bydd y tudalennau’n parhau i gael eu diweddaru wrth i ni ddysgu mwy am gefnogaeth leol.”   

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ei gydnabod fel sefydliad sy’n ‘Gweithio Tuag at Ddod yn Gyfeillgar i Ddementia’ drwy Raglen Cymunedau Cyfeillgar y Gymdeithas Alzheimer. 

Mae rhaglen Cymunedau a Sefydliadau sy’n Deall Dementia y Gymdeithas Alzheimer yn ceisio annog pawb i rannu cyfrifoldeb dros sicrhau fod pobl gyda dementia yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu gwerthfawrogi ac yn gallu cyfrannu at eu cymunedau. Mae hyn yn canolbwyntio ar wella cynhwysiant ac ansawdd bywyd drwy hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth mewn cymunedau a sefydliadau, er mwyn iddynt allu ymateb yn well i anghenion unigolion sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. 

Gellir mynd at y tudalen a'r map newydd yn fan hyn.