Cyfle am sgwrs
I unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan ddementia, sydd eisiau siarad â rhywun sy’n byw efo dementia.
Mae ‘Cyfle am sgwrs’ yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr sydd yn byw gyda dementia. Croeso i chi gysylltu unrhyw bryd. Os nad oes ateb, gadewch neges a byddem yn ffonio chi yn ôl, neu mae croeso cynnes i chi ddefnyddio unrhyw un o’r rhifau.
Ebost: friendlyfacewales@gmail.com
Diogelu Oedolion
Pan fo’n ymddangos bod oedolyn yn profi, neu mewn perygl o brofi camdriniaeth neu esgeulustod, mae gan y cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i ymgymryd ag ymholiadau i benderfynu p’run ai yw hynny’n wir ac i lunio ymateb i sicrhau bod yr oedolyn yn cael ei ddiogelu.
Gall staff a’r cyhoedd gysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol am gyngor, neu fe allwch ffonio 999 i gysylltu â’r Heddlu’n uniongyrchol os ydych chi’n credu bod trosedd wedi’i chyflawni neu bod rhywun mewn perygl brys.
Gwasanaethau Cymdeithasol: 01352 803444 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101. Os ydych yn pryderu bod person oedrannus yn cael ei gam-drin, ffoniwch llinell gymorth Action on Elder Abuse ar 0808 808 8141 neu Age Connects Gogledd Ddwyrain Cymru ar 08450 549969.
Pan fydd y swyddfeydd ar gau, cysylltwch â'r Heddlu ar 101 neu mewn argyfwng ffoniwch 999.
Cymdeithas Alzheimer's Cymru
Dewch i wybod mwy am Gymdeithas Alzheimer’s Cymru a chael mynediad at adnoddau am ddementia yn y Gymraeg.
Dewis Cymru
Mae Dewis Cymru yn wefan sydd wedi’i datblygu i helpu pobl ganfod gwybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau a all eu helpu i reoli eu lles eu hunain. Mae yno wybodaeth a all eich helpu i feddwl am yr hyn sydd yn bwysig i chi, mae hefyd gwybodaeth am bobl a gwasanaethau yn eich ardal a all eich helpu gyda’r pethau sydd yn bwysig i chi.
Sir y Fflint yn Cysylltu
Mae Sir y Fflint yn Cysylltu yn dod a Chyngor Sir y Fflint, Heddlue Gogledd Cymru, y Ganolfan Waith a mwy a sefydliadau partner eraill ynghyd, i ddarparu gwasanaethu o safon uchel sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i'r cyhoedd ac unigolion diamddiffyn yn ein cymuned sy'n ei chael hi'n anodd cael mynediad at wasanaethu ar-lein neu ar y ffon.
Yn Sir y Fflint yn Cysylltu, gallwch siarad ag un o'n Ymgynghorwyr Gwasanaethu Cwsmeriaid hyfforddedig am ystod o wasanaethau'r cyngor.
Mae canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yng Bwcle, Nghei Connah, Y Fflint, Treffynnon, a'r Wyddgrug.
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru’n gwarchod ac yn hybu hawliau pobl hŷn ledled Cymru, gan graffu a dylanwadu ar amrywiaeth eang o bolisïau ac arferion i wella eu bywydau. Mae’n darparu help a chefnogaeth yn uniongyrchol i bobl hŷn drwy ei thîm gwaith achosion ac mae’n gweithio i rymuso pobl hŷn i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ac y gweithredir yn ei gylch. Mae rôl y Comisiynydd yn seiliedig ar gyfres o bwerau cyfreithiol unigryw i’w chefnogi gydag adolygu gwaith cyrff cyhoeddus a’u dal yn atebol pan fo angen.
Mae Pŵer mewn Gwybodaeth
Awgrymiadau defnyddiol a allai helpu gwneud bywyd ychydig yn haws ar ôl cael diagnosis o ddementia. Ysgrifennwyd y llyfryn yma gan bobl sy’n byw gyda dementia, ar gyfer poblsy’n byw gyda dementia.
Pobl o’r un Anian – Cyfle newydd i gwrdd â phobl eraill gyda Dementia
Mae’r sesiwn wedi’i lunio gan bobl sy’n byw gyda dementia i bobl sy’n byw gyda dementia yn y camau cynnar i ganolig, gan gynnig awyrgylch gefnogol a chyfeillgar i drafod syniadau newydd o grefftau i ddigwyddiadau llawn hwyl, i godi ymwybyddiaeth neu’n syml iawn i gynnig cymorth a chyfeillgarwch i’w gilydd.
Teleofal
Mae’r gwasanaeth yn darparu ystod o offer Teleofal sydd yn cefnogi annibyniaeth. Gellir cysylltu offer Teleofal â gwasanaeth monitro 24 awr neu â system ffôn symudol neu system rybuddio gofalwr. Beth bynnag yw’ch sefyllfa, gallwch alw am gymorth.
Mae’r offer Teleofal ar gael i unrhyw un sy’n byw yn Sir y Fflint ac sy’n teimlo y gallai wneud gwahaniaeth i’w bywydau yn dilyn asesiad o anghenion. Gofynnir am un taliad o £25 + TAW am osod yr offer.
Os hoffech i ni gysylltu eich offer teleofal â chanolfan fonitro Galw Gofal, codir tâl monitro o £2.20 + TAW yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch 01352 803444 neu ebost: spoa@flintshire.gov.uk
Tudalennau gwe Which? ‘Later Life Care’.Cyngor annibynnol, ymarferol a rhad ac am ddim ar wneud dewisiadau gofal ar draws y DU. Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys gwybodaeth am ddementia a Chyfeiriadur Gwasanaethau Gofal.