Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaethau Cadwraeth Adeiledig Newydd

Published: 11/10/2021

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyflwyno nifer o welliannau i’r gwasanaethau mae’n eu darparu yn gysylltiedig â chadwraeth adeiledig ac adeiladau rhestredig.

O’r mis hwn ymlaen, mae’r gwasanaethau ffurfiol canlynol ar gael:

  • Cyngor cyn ymgeisio ar gyfer Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth – i annog darpar ymgeiswyr am ganiatâd adeilad rhestredig a chaniatâd mewn ardal gadwraeth i drafod eu cynigion â swyddogion y Cyngor cyn cyflwyno cais ffurfiol. Bydd ffi fechan am y cyngor hwn – manylion ar gael ar y wefan.  
  • Cyngor cyn prynu Adeilad Rhestredig – i helpu darpar berchnogion i ddeall bod cyfrifoldebau ychwanegol ar berchnogion adeilad rhestredig ac i gynnig mantais gwybodaeth a chyngor y Cyngor Sir ynglyn â’r adeiladau rhestredig. Eto, bydd ffi gymharol fechan am y gwasanaeth hwn – manylion ar gael ar y wefan.
  • Grant Atgyweirio Adeiladau Hanesyddol – mae’r Cyngor yn cydnabod y gall cynnal a chadw ac atgyweirio adeiladau rhestredig ac adeiladau treftadaeth eraill fod yn faich sylweddol ar berchnogion, yn enwedig o ran costau atgyweirio. I helpu perchnogion, rydym wedi datblygu cynllun grant i atgyweirio adeiladau, a fydd ar agor eleni a’r flwyddyn ariannol nesaf ar ffurf cynllun peilot.

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Chris Bithell:

 “Mae’r Cyngor wedi gweld bod diffyg manylder mewn rhai ceisiadau a’r bwriad o gynnig gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio yw gwella ansawdd ceisiadau ffurfiol a fydd, yn ei dro, yn cyflymu’r broses o’u hystyried a phenderfynu arnynt.”

 “Rwy’n falch iawn o gyhoeddi bod y gwasanaethau newydd bellach ar gael o fewn fy mhortffolio i. Mae cadwraeth ein treftadaeth adeiledig yn fater pwysig ac yn un o ddiddordeb penodol i mi, gan fod gan Sir y Fflint gymaint o asedau treftadaeth o bob lliw a llun. Bwriad y gwasanaethau hyn yw helpu perchnogion a darpar berchnogion adeiladau rhestredig i ddeall eu hadeiladau’n well, yn ogystal â’r gofynion sy’n cyd-fynd â bod yn berchen arnyn nhw, o ran cynnal a chadw a hefyd i ba raddau mae modd gwneud mwy o newidiadau i adeilad rhestredig. Rwy’n benodol falch bod y Cyngor wedi gallu datblygu cynllun cyllid grant cymharol ei faint i gefnogi gwaith atgyweirio hanfodol, ac rwy’n edrych ymlaen i allu cynorthwyo perchnogion fel hyn.”

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y Cyngor (dolenni isod) neu anfon e-bost at y Tîm Cadwraeth Adeiledig ar conservation@flintshire.gov.uk

Dolenni gwe

Cyngor cyn ymgeisio, cyngor cyn prynu a’r grant atgyweirio ar gyfer Adeiladau Rhestredig – https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Planning/Conservation-areas.aspx 

Cyngor cyn ymgeisio, cyngor cyn prynu a grant atgyweirio adeiladau ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth –  https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Planning/Conservation-areas.aspx