Alert Section

Ardaloedd Cadwraeth



Grant Atgyweirio Adeiladau Treftadaeth

Mae’r Cyngor yn cydnabod y gall cynnal a chadw ac atgyweirio adeiladau rhestredig a threftadaeth roi baich sylweddol ar berchnogion, yn arbennig o ran costau atgyweirio.

Er mwyn ceisio darparu anogaeth a chymorth i berchnogion i gymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif i gadw adeiladau o’r fath mewn cyflwr cadwraeth cadarnhaol, mae’r Cyngor wedi datblygu cynllun grant atgyweirio adeiladau a fydd yn rhedeg yn ystod y flwyddyn ariannol yma a’r nesaf mewn ffurf beilot. Yna bydd y buddion yn cael eu gwerthuso ar gyfer cyllid yn y blynyddoedd i ddod.

Y nod yw darparu cymorth cymharol ar gyfer costau cynnal a chadw ac atgyweirio hanfodol, a’r egwyddorion allweddol tu ôl i hyn yw annog perchnogion i ddeall eu hadeiladau o ran eu dyluniad, strwythur a chyflwr, a chyflawni gwaith cynnal a chadw rheolaidd a phriodol. Os oes angen gwaith atgyweirio, dylai’r rhain fod y lleiafrif angenrheidiol er mwyn sefydlogi a chadw’r adeilad ar gyfer goroesiad hirdymor ac i fodloni gofynion defnydd parhaus.

Mae’r Cyngor wedi paratoi nodyn cyfarwyddyd cryno sy’n egluro prif egwyddorion atgyweirio, ac yn nodi’r math o ddull y mae’r Cyngor yn chwilio amdano o ran ei allu i gefnogi ceisiadau grant.

Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr

Mae’r Cyngor wedi paratoi nodyn cyfarwyddyd ar gyfer ymgeiswyr posibl sy’n nodi pwy all wneud cais ar gyfer y grant, pa fathau o adeiladau treftadaeth sy’n gymwys, pa waith sy’n cael eu cynnwys, a’r swm o grant sydd ar gael. Yn dibynnu ar y math o adeiladu treftadaeth, bydd y grantiau yn daladwy am hyd at hanner y costau cymwys, hyd at uchafswm o rhwng £2,500 a £10,000.

Sut i wneud cais

Dylai ymgeiswyr posibl adolygu’r ddau nodyn cyfarwyddyd uchod, a dylent ystyried gael trafodaeth anffurfiol  gyda’r Tîm Cadwraeth Adeiladau i amlinellu natur yr atgyweiriad y maent yn ystyried gwneud cais amdano, ac i gael safbwynt mewn egwyddor, yn ogystal â chyngor ar wybodaeth gefnogol sydd ei angen o fewn y cais.

Ar hyn o bryd mae’r Tîm Cadwraeth Adeiladau yn parhau i weithio o gartref yn sgil sefyllfa barhaus Covid a’r ffordd orau o gysylltu yw trwy e-bost i’r cyfeiriad canlynol conservation@flintshire.gov.uk.

Dylai’r ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais Grant Atgyweirio Adeiladau a’i ddychwelyd (drwy e-bost os yw’n bosibl) i’r Tîm Cadwraeth Adeiladau, i’r cyfeiriad uchod.

Mae ardaloedd cadwraeth yn ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.  Mae gan yr awdurdod cynllunio lleol ddyletswydd statudol i'w dynodi a'u gwarchod a gwella eu cymeriad neu eu hymddangosiad arbennig. Mae'n bosibl y bydd angen caniatâd cyn gwneud unrhyw waith ar eiddo mewn ardal gadwraeth.

Gall nifer o nodweddion greu cymeriad ardal gadwraeth, megis deunyddiau adeiladu, arddulliau a nodweddion, gosodiad ffordd benodol neu batrwm datblygu. Mae archeoleg, topograffeg lleol, coed, tirwedd, tirwedd ehangach a golygfeydd hefyd yn bwysig.

Beth allaf ei wneud mewn ardal gadwraeth?

Mae gan y mwyafrif o berchnogion tai hawliau 'datblygiadau a ganiateir' penodol, sy'n golygu nad oes raid iddynt wneud cais am ganiatâd cynllunio i wneud rhai mathau o waith.  Mewn ardaloedd cadwraeth, mae rhai o'r hawliau hyn yn cael eu tynnu oddi arnynt ac mae'r wybodaeth isod yn ganllaw i'ch helpu i benderfynu p'un a oes angen caniatâd i wneud mathau penodol o waith.

Nodyn Esboniadol Cynllunio Lleol 7 – Ardaloedd Cadwraeth

Yn atodol i ddarparu rheolaethau ychwanegol dros ddatblygiad, mae coed o fewn Ardaloedd Cadwraeth yn cael eu hamddiffyn.

Coed Gwarchodedig o fewn Ardaloedd Cadwraeth

A yw coed yn cael eu gwarchod mewn ardaloedd cadwraeth?

Mae pob coeden, ac eithrio coed ffrwythau, yn cael eu hamddiffyn mewn ardaloedd cadwraeth.  Mae rhai coed yn cael eu gwarchod dan Orchymyn Cadw Coed hefyd.  Rhaid i chi roi 6 wythnos o rybudd ysgrifenedig i'r Cyngor cyn gwneud gwaith ar goed.

Os ydych chi'n bwriadu ymgymryd â gwaith gyda choed (e.e. dymchwel, brigdorri neu docio coed) Ardal Gadwraeth, fel arfer, bydd angen i chi gyflwyno hysbysiad o weithio ar goed i'r Cyngor.

Cyngor ar Adeilad Rhestredig / Ardal Gadwraeth Cyn Ymgeisio

O 1 Medi 2021 byddwn yn codi tâl am ddarparu cyngor cyn ymgeisio. O’r dyddiad hwn ymlaen bydd arnoch chi angen llenwi ffurflen safonol cyn derbyn cyngor. 

Efallai y bydd oedi wrth gofrestru ceisiadau newydd ar gyfer y gwasanaethau uchod.Sylwer na allwn brosesu ceisiadau papur a dylid eu cyflwyno ar e-bost i planningadmin@flintshire.gov.uk

Canllawiau a Ffurflenni Cais

Gwneud cais am ganiatâd

Mae gwybodaeth am wneud cais ar-lein, lawrlwytho ffurflenni cais, a beth i’w gynnwys yn eich cais i’w chael ar ein tudalen we Gwnewch gais am ganiatâd cynllunio

Sylwer

Os ydych yn bwriadu gwneud gwaith ar eiddo, mae'n bosibl y bydd angen caniatâd adeilad rhestredig, caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth o dan y Rheoliadau Adeiladu arnoch hefyd.

Cysylltu â ni

Ebost: cadwraeth@siryfflint.gov.uk

Ffôn: 07770 211401

Ardaloedd cadwraeth yn Sir y Fflint

Mae 32 o ardaloedd cadwraeth yn Sir y Fflint ar hyn o bryd:

  • Canol trefi marchnad hanesyddol (3): Y Fflint, Treffynnon a'r Wyddgrug.
  • Rhannau o bentrefi (18): Cadole, Caergwrle, Caerwys, Cilcain, Ffynnongroyw, Gorsedd, Gwaenysgor, Gwespyr, Helygain, Penarlâg, Llanasa, Nannerch (2), Nercwys, Llaneurgain, Trelawnyd, Chwitffordd ac Ysceifiog.
  • Dynodiadau llai (11): Gladlys, Glan yr Afon, Plas Kinsale, Plas Llai, Lygan y Wern, Plas Oakenholt , Pantasaph, Plas Bellin, Plas Onn, Abaty Talacre a'r Wern.

Edrychwch ar fap sy’n dangos lleoliad ardaloedd cadwraeth yn Sir y Fflint