Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun cymorth tanwydd gaeaf

Published: 13/12/2021

Housing image with money.jpgFel rhan o’r pecyn cymorth gwerth dros £50m er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau uniongyrchol ar gostau byw, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £38 miliwm drwy Gynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf. 

Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad untro o £100 gan eu cyngor lleol. Diben yr arian yw rhoi cymorth tuag at dalu eu biliau tanwydd y gaeaf. 

Mae’r cynllun yn agored i aelwydydd lle mae un aelod oedran gweithio yn derbyn budd-dal lles sy’n dibynnu ar brawf modd (unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022):

• Cymhorthdal Incwm;

• Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm;

• Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm;

• Credyd Cynhwysol; neu

• Gredydau Treth Gwaith.

Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd gymwys waeth sut y maent yn talu am danwydd. Mae hyn yn cynnwys taliadau a wneir ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter.

Aelwyd sy’n gymwys ar gyfer y cynllun hwn yw un sy’n gyfrifol am dalu’r biliau tanwydd ar gyfer eu heiddo a heb dderbyn taliad o dan y cynllun o’r blaen.    Mae pob aelwyd yn gymwys i un taliad o £100 yn unig, hyd yn oed os oes yna fwy nag un person yn derbyn y budd-daliadau a restrwyd uchod.    

Y ffordd gyflymaf i gyflwyno cais yw drwy ymgeisio ar wefan Cyngor Sir Y Fflint. Byddwch angen darparu gwybodaeth sylfaenol i gefnogi’r cais ynghyd â darparu manylion i allu gwneud y taliad i chi drwy BACS. 

Gall unigolion sy’n credu y gallent fod yn gymwys i gael y cymorth hwn gyflwyno cais drwy’r wefan hon o 13 Rhagfyr 2021 ymlaen. 

Byddwn hefyd yn ysgrifennu at aelwydydd yr ydym yn credu sy’n gymwys, gan ofyn am wybodaeth i gefnogi’r cais ynghyd â manylion i alluogi’r taliad. 

Mae’n rhaid cyflwyno’r ceisiadau i gyd cyn 18 Chwefror 2022. Bydd taliadau ar gyfer ceisiadau llwyddiannus yn cael eu gwneud erbyn diwedd mis Mawrth 2022. Gallwch wneud cais yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch Winterfuelsupport@flintshire.gov.uk

Efallai y byddwch chi’n dal i brofi caledi ariannol difrifol. Os felly, efallai y byddwch yn dymuno gwneud cais i’r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF). https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf