Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd 2022

Published: 10/01/2022

garden-recycling-600-pixels_large.jpg

Hoffai Cyngor Sir y Fflint atgoffa preswylwyr i adnewyddu eu tanysgrifiad ar gyfer casgliad gwastraff gardd y Cyngor sy’n ailddechrau o 1 Mawrth 2022 ac yn cael ei gynnal tan 10 Rhagfyr 2022.

Gall preswylwyr gofrestru ar gyfer y cynllun unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, ond rydym yn annog pobl i gofrestru'n gynnar er mwyn sicrhau eu bod yn elwa o'r gwasanaeth casglu llawn yn ystod y tymor, yn ogystal â'r pris tanysgrifiad gostyngol sydd ar gael cyn 28 Chwefror 2022. Mae tanysgrifiadau cyn y dyddiad hwn, neu ar-lein drwy gydol y tymor, yn £32 fesul bin. Ar ôl 1 Mawrth 2022 bydd pris sylfaenol yn £35, os nad ydych yn talu ar-lein.

Gall cwsmeriaid newydd gofrestru i ddefnyddio'r gwasanaeth unrhyw bryd, drwy ymweld â'r wefan, neu drwy ein ffonio ar 01352 701234; bydd ffioedd yn parhau i fod yr un fath fodd bynnag.  Er mwyn tanysgrifio ar-lein, ewch i’n gwefan.

Eleni, byddwn yn cyflwyno sticer newydd, sy’n cynnwys tag RFID (adnabod amledd radio) i bob aelwyd sy’n tanysgrifio ar gyfer y gwasanaeth casglu.  Y bwriad yw i’r sticeri electronig, sy’n gweithio’n debyg i dagiau neu sticeri diogelwch mewn siopau, gael eu gosod ar y bin brown a’u cofrestru ar gyfer pob eiddo.  Bwriedir i’r sticer electronig gael ei sganio’n awtomatig gan ddarllenydd sglodyn ar y lifft bin ar gefn y wagen bin i gadarnhau bod yna danysgrifiad a’i gwneud yn haws i’r criwiau nodi bod y bin yn gymwys ar gyfer casglu. Mae’r darllenydd sglodyn yn debyg i sganiwr archfarchnad neu ddarllenydd cod bar a’r unig ddata a gesglir yw bod y bin wedi’i gasglu.

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd, Cyngor Sir y Fflint:

“Hoffem ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu bin brown.  Wrth i ni edrych ymlaen at dymor 2022, byddem yn annog preswylwyr i gofrestru’n fuan ar gyfer y gwasanaeth poblogaidd iawn hwn fel eu bod yn cael budd o’r gwasanaeth casglu llawn a chyfradd gostyngol.

“Rydym am sicrhau ein bod yn annog mwy o bobl i ailgylchu eu gwastraff gardd. Os oes gennych unrhyw laswellt, dail, tocion gwrychoedd, brigau, rhisgl a changhennau bach, gallwch roi’r rhain i gyd yn eich bin brown.  Ni ellir defnyddio’r biniau ar gyfer gwastraff ffrwythau a llysiau, gwastraff bwyd, cardfwrdd, papur, pridd a rwbel na gwasarn anifeiliaid, gwellt anifeiliaid a gwastraff anifeiliaid.

“Mae’r holl wastraff gardd a gesglir yn cael ei gompostio yng nghyfleuster a weithredir gan y Cyngor ym Maes Glas.  Yna gall preswylwyr Sir y Fflint gasglu’r compost a gynhyrchwyd am ddim o un o’n pump Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref.”