Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn lansio #ByddwchYnGaredigAr-leinCSFf 

Published: 08/02/2022

Children Group BKO.pngMae ymgyrch newydd o’r enw #ByddwchYnGaredigAr-leinCSFf yn cael ei lansio heddiw (dydd Mawrth 8 Chwefror) ar wefan Sir y Fflint.

Y nod yw codi ymwybyddiaeth o ddefnydd cyfrifol o’r rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol a rhoi terfyn ar fwlio seiber yn ein cymunedau.  Mae hyn yn golygu ailfeddwl am ymddygiad ar-lein a chroesawu parch, empathi a charedigrwydd. 

Fe fydd yr ymgyrch hefyd yn hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o sianeli digidol wrth gyfathrebu gyda gwasanaethau’r Cyngor.

Awgrymwyd yr ymgyrch gan y diweddar Gynghorydd Kevin Hughes a fu farw er mawr tristwch o COVID yn 2021. Cafodd ei fab, Andy, ei ethol yn ei ward ac mae’n parhau i gefnogi diogelwch ar y rhyngrwyd ac ymgyrch #ByddwchYnGaredigAr-leinCSFf.  

Dywedodd: “Fe awgrymodd fy nhad fod Sir y Fflint yn cefnogi’r ymgyrch hon ac fe fyddai’n hynod o falch fod hyn wedi dwyn ffrwyth.  Rwy’n addo parhau gyda’i waith a pharhau i godi ymwybyddiaeth o seiber fwlio a chamdriniaeth ar-lein yn fy rôl fel cynghorydd.”

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor:

“Rydym wedi dewis Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022 i nodi lansio ein hymgyrch gan fod y diwrnod yn cael ei ddathlu yn fyd-eang ym mis Chwefror bob blwyddyn i hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol ar gyfer plant a phobl ifanc.  Mae hefyd yn anelu i godi ymwybyddiaeth ynglyn â defnyddio technoleg yn gyfrifol, yn barchus, yn feirniadol ac yn greadigol.”

Mae tudalen we bwrpasol wedi ei sefydlu siryfflint.gov.uk/ByddGaredigArlein er mwyn i bobl wneud 5 addewid i fod yn garedig ar-lein.  Gellir gwneud addewidion fel unigolyn (unigolyn ifanc neu oedolyn), ysgol, busnes neu glwb/sefydliad cymunedol.

Beth am helpu i ledaenu’r gair am yr ymgyrch? Ewch ati i annog ffrindiau, teulu a chydweithwyr i wneud addewidion.

Hefyd mae yna gyfle i wneud addewid personol eich hun - argraffwch dempled Cerdyn Addewid gwag ac ysgrifennwch addewid yr hoffech ei wneud yn y canol.  Yna cymrwch Hun-lun neu gofynnwch i rywun dynnu llun ohonoch chi gyda’ch cerdyn addewid a chyhoeddwch eich llun gyda’ch addewid ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod CSFfByddwchYnGaredigAr-lein.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ewch i saferinternet.org.uk/safer-internet-day/safer-internet-day-2022