Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth newydd i wirio ffyrdd wedi’u mabwysiadu

Published: 30/08/2022

adopted roads.JPGMae Cyngor Sir y Fflint wedi lansio gwasanaeth newydd i helpu preswylwyr i ganfod a yw ffordd yn Sir y Fflint wedi ei mabwysiadu neu beidio, ac felly’n cael ei chynnal gan y Cyngor.

Yn Sir y Fflint, y Cyngor Sir yw’r awdurdod priffyrdd ar gyfer pob ffordd a fabwysiadwyd a Llywodraeth Cymru yw’r awdurdod priffyrdd ar gyfer cefnffyrdd.   Yr unig gefnffyrdd yn Sir y Fflint yw’r A494 a’r A55.

Nid yw ffyrdd preifat wedi eu mabwysiadu ac felly nid ydynt yn cael eu cynnal gan yr awdurdod priffyrdd. Nid oes gan yr awdurdod priffyrdd unrhyw rwymedigaethau i gynnal atgyweiriadau, gwaith cynnal a chadw na glanhau strydoedd, i ffyrdd nad ydynt wedi’u mabwysiadu.

I ddefnyddio’r gwasanaeth newydd a gwirio unrhyw ffyrdd yn y Sir, ewch i’r wefan hon: Ffyrdd Mabwysiedig Sir y Fflint

Os oes gennych unrhyw ymholiadau’n ymwneud â ffyrdd wedi’u mabwysiadu, cysylltwch â highwaysdevelopmentcontrol@flintshire.gov.uk.