Alert Section

Ffyrdd wedi'u Mabwysiadu

Darganfyddwch a yw ffordd yn Sir y Fflint wedi cael ei mabwysiadu gan y Cyngor fel awdurdod priffyrdd (neu Lywodraeth Cymru yn achos cefnffordd).

Mae ffordd a fabwysiadwyd yn ffordd sy’n cael ei chynnal ar draul y cyhoedd (hy) cynnal gan awdurdod priffyrdd.

Yn Sir y Fflint, y Cyngor Sir yw’r awdurdod priffyrdd ar gyfer pob ffordd a fabwysiadwyd a Llywodraeth Cymru yw’r awdurdod priffyrdd ar gyfer cefnffyrdd. Yr unig gefnffyrdd yn Sir y Fflint yw’r A494 a’r A55.

Nid yw ffyrdd preifat wedi eu mabwysiadu ac felly nid ydynt yn cael eu cynnal gan yr awdurdod priffyrdd. Nid oes gan yr awdurdod priffyrdd unrhyw rwymedigaethau i gynnal atgyweiriadau, gwaith cynnal a chadw neu lanhau strydoedd, i ffyrdd nad ydynt wedi’u mabwysiadu.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch ffyrdd wedi’u mabwysiadu, cysylltwch â ni am: highwaysdevelopmentcontrol@flintshire.gov.uk

Priffyrdd a Gynhelir ar Draul y Cyhoedd

Allwedd

Llwyd - Cefnffordd
Pinc - Ffordd A (Dosbarth A)
Glas - Ffordd B (Dosbarth II)
Brown - Ffordd Ddosbarthiadol (Dosbarth III)
Melyn - Di-ddosbarth
Gwyrdd - Ffyrdd sydd â Chytundeb A38
Croeslinellau - Ffordd sydd â Gorchymyn Stryd Newydd