Alert Section

School Closures


Ar hyn o bryd mae 0 ysgol ar gau

Achosion brys o gau ysgolion:

Mewn achosion brys o gau colegau, ewch i wefan pob coleg unigol.

Penderfyniad y cyrff llywodraethu perthnasol a'u pennaeth yw cau ysgol neu beidio. Mae penderfyniadau'n cael eu gwneud yn dilyn asesiad risg unigol mewn perthynas ag amodau'r safle ac mewn rhai achosion, argaeledd cludiant i'r ysgol. Os nad yw'r ysgol wedi ei rhestru isod, nid oes penderfyniad wedi'i wneud hyd yma.

Efallai bod rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan eich ysgol.

Cludiant i'r ysgol yn ystod tywydd gwael:

Os yw eich plentyn / plant yn gymwys i dderbyn Cludiant Am Ddim i'r Ysgol, ewch i dudalen we Cludiant i'r Ysgol am wybodaeth o ran amodau tywydd gwael. Ewch i www.flintshire.gov.uk/schooltransport neu ffoniwch Tîm Cludiant i'r Ysgol Sir y Fflint ar 01352 701234. Ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, dylai teithwyr wirio gyda darparwyr trafnidiaeth cyn teithio neu gysylltu â Thîm Trafnidiaeth Sir y Fflint ar 01352 701234 neu Traveline Cymru ar 0800 4640000.


Yn ôl | Hafan