Alert Section

Adolygiad o Ostyngiad Person Sengl 2024


Bydd trethdalwyr yn Sir y Fflint sy’n cael gostyngiad o 25% ar eu bil fel trigolion deiliadaeth sengl yn cael eu gwirio i sicrhau bod y gostyngiadau yn gywir. Mae hwn yn ymarfer rheolaidd, a chynhaliwyd adolygiad tebyg yn 2022.

Bydd Datatank Ltd, darparwr gwasanaeth arweiniol sy’n arbenigo mewn adolygiadau o’r fath, yn gweithio gyda’r Cyngor i gadarnhau’r gostyngiad ar gyfer hawlwyr dilys ac i nodi pobl sy’n hawlio gostyngiad Treth y Cyngor pan nad oes ganddynt hawl iddo.

Pan gaiff hawliadau anghywir eu nodi, bydd y Cyngor yn dod â’r hawliadau hynny i ben gan geisio adennill y gostyngiad o ddyddiad priodol.

Ar hyn o bryd mae bron i 24,000 o drigolion – bron i un o bob tri chartref, yn hawlio gostyngiad person sengl ac er bod mwyafrif helaeth y trigolion hyn yn hawlio'r gostyngiad yn gywir, mae’n bosibl y bydd achosion lle nad yw'r Cyngor wedi cael gwybod am newid mewn deiliadaeth cartref a all effeithio ar y gostyngiad neu lle hawlir y gostyngiad trwy dwyll yn fwriadol.

Rydw i wedi cael ffurflen – beth ddylwn i wneud nesaf? 

Cadarnhewch eich manylion ar y ffurflen Adolygu Gostyngiad Person Sengl. I gael gafael ar eich ffurflen, bydd arnoch chi angen rhoi’ch rhif PIN unigryw. Gallwch ddod o hyd i’r rhif PIN hwn ar y llythyr adolygu a anfonwyd atoch.

Ffurflen Adolygu Gostyngiad Person Sengl

Bydd gwiriadau’n cael eu gwneud i sicrhau bod pawb sy’n hawlio’r gostyngiad yn gymwys.

I’ch helpu chi i lenwi’r ffurflen neu ddysgu mwy am yr adolygiad, rydym ni wedi creu rhestr o gwestiynau cyffredin.