Alert Section

Dweud eich dweud - Premiwm Treth y Cyngor


Ymgynghoriad ar adolygiad y Cynllun Premiwm Treth y Cyngor i ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.

I lenwi’r ymgynghoriad, cliciwch yma

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 15 Ebrill 2024 ac 8 Gorffennaf 2024 i roi cyfle i holl aelodau o’r cyhoedd ac unrhyw un â diddordeb i ddweud eu dweud ar ddyfodol Cynllun Premiwm Treth y Cyngor.  

Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad yn helpu i ddatblygu cynllun Premiwm Treth y Cyngor yn y dyfodol.  

Mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru bwerau disgresiwn i godi neu amrywio premiwm treth y cyngor hyd at 300% uwchben y gyfradd safonol ar gyfer treth y cyngor ar gategorïau penodol o eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi.

Cyflwynodd Cyngor Sir y Fflint gynllun premiwm yn 2017 ac ar hyn o bryd mae lefel premiwm treth y cyngor 75% wedi ei godi ar eiddo gwag hirdymor a 100% ar ail gartrefi.

Mae’r premiwm a godir yn bresennol ar eiddo nad yw yn cael ei ddefnyddio fel prif neu unig breswylfa rhywun oherwydd:

  • Eiddo gwag hirdymor a ddiffinnir fel un sydd wedi bod yn wag heb unrhyw breswylydd am dros 12 mis; neu
  • Yn ail gartref a ddiffinnir fel annedd sydd wedi ei ddodrefnu’n helaeth a'i feddiannu yn achlysurol, er enghraifft cartref gwyliau.

Nid yw bob eiddo sy'n rhan o'r categorïau uchod yn talu premiwm ac mae’r cynllun yn darparu eithriadau cyfyngedig (rhai yn gyfyngedig o ran amser a rhai yn amhenodol) ble na fyddai’r premiwm yn berthnasol.  Mae’r eithriadau yn cynnwys eiddo sy’n cael eu marchnata i’w gwerthu neu i’w gosod, anecsau, ac eiddo tymhorol ble na chaniateir meddiant trwy gydol y flwyddyn.

Mae’r dadansoddiad diweddaraf o eiddo yn dangos fod cyfanswm o 786 yn talu’r premiwm, mae hyn yn cynnwys 616 eiddo gwag hirdymor a 170 o ail gartrefi. Mae hyn yn gyfwerth â 1.1% o’r holl eiddo domestig yn Sir y Fflint yn agored ar gyfer y tâl premiwm. 

Gallwch weld sut y gall eiddo fod yn atebol am y premiwm yn y 34 ardal Cyngor Tref a Chymuned ar draws Sir y Fflint yma.

Premium Chart 24 CYM

Wrth ystyried a ddylid addasu’r lefelau premiwm ai peidio, bwriedir i’r disgresiwn a roddir i awdurdodau lleol godi premiwm fod yn offeryn i helpu awdurdodau lleol i:

  • Defnyddio cartrefi sy’n wag yn y tymor hir unwaith eto, i ddarparu cartrefi diogel a fforddiadwy; a
  • Chynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol.

Ar hyn o bryd mae 17 awdurdod lleol yng Nghymru, gan gynnwys Sir y Fflint yn gweithredu cynllun premiwm gyda bob awdurdod yn gosod y lefel premiwm yn amrywio o 50% i 300%. 

Mae’r Cyngor yn awr yn ymgynghori â’r cyhoedd fel rhan o'r broses o adolygu a ddylid newid y lefel premiwm yn y dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i roi’r cyfle i chi gael dweud eich dweud.

Mae’r ymatebion a roddwch yn hollol ddi-enw a dylai’r holiadur ar-lein ond cymryd ychydig o funudau i’w lenwi.  

Mae’r ymgynghoriad ar agor am gyfnod o ddeuddeg wythnos, gan ddod i ben am 5pm ar 8 Gorffennaf 2024.