Alert Section

Grant Cyfleusterau I'r Anabl


Addasiadau i’r Anabl 

Crynodeb (opsiynol) Os oes gennych anabledd, addasiad yw math o newid neu ddarn o gyfarpar, sy’n ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i chi aros yn eich cartref. Mae addasiadau’n amrywio yn ôl anghenion yr unigolyn, ac yn amrywio o ganllaw cydio syml i gymorth i fynd i mewn ac allan o’r bath, i ychwanegu gofod ychwanegol i’r cartref.  

Beth yw Grant Cyfleusterau I'r Anabl? 

Mae addasiadau yn amrywio yn unol ag anghenion yr unigolyn, gallant amrywio o gawod lefel isel, i ychwanegu gofod ychwanegol i'r cartref (ond dim ond pan fydd angen y gofod ychwanegol i ddiwallu anghenion yr aelod o'r cartref sydd ag anabledd)

Mewn sawl achos, gall y Cyngor helpu pobl gymwys gyda chost addasiad, ond dim ond pan fydd y cymorth hwnnw wedi ei gytuno gan Therapydd Galwedigaethol.   

Addasiadau i gefnogi pobl gydag anabledd 

Amcan addasiadau i gartrefi pobl yw gwella ansawdd byw drwy gefnogi pobl i aros mor annibynnol a phosib, gan leihau effaith eu hanabledd ar bobl anabl, a chyfrannu tuag at atal neu ohirio datblygiad anghenion pobl am ofal a chymorth

Mae Therapyddion Galwedigaethol a Swyddogion Galluogi a gyflogir gan Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint â’r sgiliau i gyflawni asesiadau a gwneud argymhellion am y mathau o newidiadau a fyddai'n eich cefnogi chi, eich teulu neu'ch gofalwyr i fod yn rhan o'ch bywyd bob dydd

Bydd pob llwybr yn cael ei archwilio a allai olygu cyflawni eich canlyniadau, gan gynnwys newidiadau posib i ffordd o fyw, defnyddio technegau gwahanol ac / neu gyfarpar, neu symud i gartref mwy addas i ddiwallu’ch anghenion parhaol.

Mewn rhai achosion, mae’n bosib y bydd argymhellion ar gyfer canllaw cydio syml sy’n rhoi hyder a thawelwch meddwl i rywun, a gallai fod yn rhywbeth y byddai pobl yn hapus i’w hariannu eu hunain gyda’r cyngor a’r wybodaeth gywir.

Weithiau, addasiad yw'r datrysiad gorau.Gellir trafod asesiad drwy gysylltu â’r:

  • tîm Un Pwynt Mynediad: 03000 858 858
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, Preswylfa, Ffordd Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1PZ
  • E-bost: spoa@flintshire.gov.uk

Beth yw Grant Cyfleusterau I'r Anabl? 

Mae Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl yn fath o gymorth ariannol a ddefnyddir i helpu gydag addasu’r cartref.  Mae rhai mathau o Grantiau yn orfodol a chânt eu cwmpasu gan ddeddfwriaeth a nodir yn Neddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996. 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gosod cyfyngiad ar gyfer Grant Cyfleusterau i'r Anabl mandadol o £36,000. Dyma’r swm uchaf o grant a ellir ei ddyfarnu, ond gallai gael ei ostwng mewn amgylchiadau lle mae disgwyl i’r ymgeisydd gyfrannu tuag at gost y gwaith.  

Pwy all wneud cais am Grant Cyfleusterau I'r Anabl

Gallwch wneud cais am Grant Cyfleusterau I'r Anabl os ydych yn:

  • Perchennog
  • TŷTenant sy’n rhentu gan landlord preifat
  • Preswylydd mewn cartref parc 
  • Byw mewn cwch preswyl  

A fydd angen i chi gyfrannu at gost y gwaith? 

Os ydych chi’n cael budd-dal a drosglwyddir a restrir isod neu os yw’r cais ar ran plentyn, gallwch gael Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl o hyd at £36,000, ac ni fydd gofyn i chi gyfrannu at gost y gwaith.

  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Ceisio Gwaith Seiliedig ar Incwm
  • Budd-dal Treth y Cyngor (ac eithrio gostyngiad person sengl)
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith
  • Gwarant Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Cymorth Cyflogaeth sy’n Gysylltiedig ag Incwm

Os nad ydych yn derbyn budd-dal wedi ei basbortio neu os nad yw’ch cais ar gyfer plentyn, bydd angen i chi ddangos prawf o’ch incwm / cyfalaf yn ogystal ag incwm / cyfalaf eich partner os ydych mewn perthynas. Gwneir cyfrifiad ar sail y wybodaeth hon a chewch wybod faint fydd eich cyfraniad at y gwaith. Yr enw ar hyn yw Prawf Modd.

A fydd angen i chi ad-dalu’r Grant Cyfleusterau I'r Anabl?

Os ydych chi’n berchen ar yr eiddo, mae angen gosod Pridiant Tir am £10,000 ar yr eiddo ar gyfer pob Grant Cyfleusterau i'r Anabl a gaiff eu cyfrif fel addasiad mawr, ac mae’n ad-daladwy os caiff yr eiddo ei werthu neu ei drosglwyddo i unigolyn arall o fewn 10 mlynedd i’r dyddiad Cwblhau Ardystiedig, yn unol â Pholisi’r Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl.

Sut i wneud cais am Grant Cyfleusterau I'r Anabl 

Bydd aelod o’r Tîm Therapi Galwedigaethol, wedi eu cyflogi gan Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, yn cyflawni asesiadau ac yn argymell y math o addasiadau a fyddai o gymorth i chi, eich teulu neu'ch gofalwyr yn eich bywyd bob dydd.    

Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, fel rhan o’r asesiad, bydd agweddau eraill yn cael eu trafod a allai arwain at gyflawni canlyniadau, gan gynnwys newidiadau posib i ffordd o fyw, defnyddio technegau ac / neu gyfarpar gwahanol, neu pan fyddai gwaith yn sylweddol, rhoddir ystyriaeth i fanteision symud i rywle mwy addas, o bosib.  
Yn seiliedig ar eich sefyllfa, bydd aelod o’r tîm Therapi Galwedigaethol yn ystyried a ddylech wneud cais am Grant Cyfleusterau I'r Anabl.  Os felly, bydd Ffurflen Argymell Addasiad ar gyfer Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn cael ei chwblhau gan aelod o’r tîm Therapi Galwedigaethol yn ystod eu hymweliad gan gadarnhau pa addasiadau fydd angen eu gwneud i’r eiddo, lle bo hynny yn bosib.  

Os ydych yn derbyn budd-daliadau wedi eu pasbortio, neu os yw'r cais ar gyfer plentyn, bydd angen i chi arwyddo'r Ffurflen Argymell Addasiad ar gyfer Grant Cyfleusterau I'r Anabl yn ystod yr ymweliad er mwyn cadarnhau eich bod yn hapus i wneud y cais Grant Cyfleusterau I'r Anabl.  

Os nad ydych yn derbyn budd-dal wedi ei basbortio, neu os nad yw'r cais ar gyfer plentyn, bydd aelod o'r tîm Therapi Galwedigaethol yn gofyn i chi a ydych yn ymgeisydd sengl ac a ydych wedi cael asesiad ariannol yn ddiweddar gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Os felly, bydd aelod o’r tîm Therapi Galwedigaethol yn cael eich manylion incwm a chyfalaf gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn darparu'r rhain i ni, gyda’ch Ffurflen Argymell Addasiad ar gyfer Grant Cyfleusterau i'r Anabl. 

Os nad ydych wedi cael asesiad ariannol yn ddiweddar, bydd aelod o’r tîm Therapi Galwedigaethol yn darparu ffurflen Prawf Modd i chi ei chwblhau er mwyn cadarnhau eich incwm / cyfalaf, ac incwm / cyfalaf eich partner os oes gennych chi un. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i gyfrifo a fydd angen i chi gyfrannu at gost y gwaith ai peidio.  

Os ydych yn rhentu eich eiddo yn breifat, bydd angen i'ch landlord gwblhau ffurflen ganiatâd landlordiaid i gytuno i'r addasiadau ar eu heiddo. Bydd aelod o’r tîm Therapi Galwedigaethol yn rhoi'r ffurflen hon i chi.  

Rhaid dychwelyd y ffurflen Prawf Modd, tystiolaeth o’ch holl incwm/ cyfalaf, preswyliad, a ffurflen caniatâd landlordiaid os yn berthnasol o fewn mis i’r dyddiad y bydd aelod o’r tîm Therapi Galwedigaethol wedi ymweld â chi:   

  • E-bost– Disabled.facilities.grants@flintshire.gov.uk
  • Ymweld – Eich Swyddfa ‘Sir y Fflint yn Cysylltu’ lleol
  • Post - Grant Cyfleusterau I'r Anabl, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NA.  

Am gymorth pellach, ffoniwch yr Addasiadau i'r Anabl ar 01372 703420. 

Unwaith y byddwn wedi gwneud y prawf modd, byddwn yn eich ffonio i adael i chi wybod os bydd angen i chi wneud cyfraniad tuag at gost y gwaith.  Os ydych yn hapus i dalu’r cyfraniad ac am symud ymlaen â’r cais, byddwn yn anfon llythyr cadarnhau atoch yn ogystal â datganiad y bydd angen i chi ei arwyddo a’i ddychwelyd atom o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y llythyr:  

  • E-bost– Disabled.facilities.grants@flintshire.gov.uk
  • Ymweld – Eich Swyddfa ‘Sir y Fflint yn Cysylltu' lleol
  • Post - Grant Cyfleusterau I'r Anabl, Adain Budd-daliadau, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NA.  

Os na fyddwn yn derbyn y ffurflen prawf modd wedi ei chwblhau yn ogystal â’r dystiolaeth berthnasol a’r ffurflen gytundeb landlordiaid, bydd eich cais yn cael ei dynnu yn ôl.