Bydd Cyngor Sir y Fflint yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon, ac unrhyw dystiolaeth ategol y byddwch yn ei hanfon, i brosesu eich cais am Taliadau Dewisol Tai. Mae hyn yn ofynnol o dan reoliadau Cymorth Ariannol Dewisol.
Caiff y wybodaeth hon ei chadw’n ddiogel ar ein system.
Gall Cyngor Sir y Fflint drosglwyddo'r wybodaeth i asiantaethau neu sefydliadau eraill fel yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau EM, fel y caniateir gan y gyfraith.
Efallai y bydd Cyngor Sir y Fflint yn cymharu'r wybodaeth rydych wedi'i darparu, neu wybodaeth amdanoch chi y mae rhywun arall wedi’i darparu, â gwybodaeth arall sydd gennym. Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth amdanoch gan drydydd parti, neu yn rhoi gwybodaeth iddynt er mwyn:
- sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir
- atal neu ganfod troseddau, ac
- diogelu arian cyhoeddus.
Efallai y byddai gwybodaeth a dderbynnir gan Gyllid a Thollau EM yn nodi newid mewn amgylchiadau a fyddai’n gallu arwain at y system yn newid eich buddion yn awtomatig.
Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhoi gwybodaeth amdanoch i unrhyw un arall, na’n defnyddio gwybodaeth amdanoch chi at ddibenion eraill, oni bai fod y gyfraith yn caniatáu hynny.
Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.