Y Cynghorydd Gladys Healey
Mae’r Cynghorydd Gladys Healey wedi cael ei phenodi yn Is-gadeirydd Cyngor Sir y Fflint ar gyfer blwyddyn 2022-23.
Mae Cynghorydd Healey wedi cynrychioli ward Yr Hôb ers 2017. Mae hi wedi byw yn Yr Hôb ers 36 o flynyddoedd ac mae hi’n Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Castell Alun ac Ysgol Estyn.
Fe arferai Cynghorydd Healey weithio mewn nifer o leoliadau gofal yn cynnwys Adrannau Llawfeddygol ac Orthopaedeg yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae hi’n briod â Dave ac mae ganddi ddwy o ferched a thri o wyrion ac wyresau.