Alert Section

Dogfen Ryngweithiol Strategaeth Ddigidol Fersiwn Hygyrch


Sir Y Fflint Digidol - Cefnogi Sir y Fflint mewn Byd Digidol

Beth yw Sir y Fflint Digidol?

Mae Sir y Fflint Digidol yn gynllun uchelgeisiol sy’n nodi sut y byddwn yn gwella ac yn symleiddio ein gwasanaethau.

Nid cynnig mwy o wasanaethau ar-lein yn unig yw’r nod ond newid y ffordd y byddwn yn cyflenwi ein gwasanaethau i roi’r profiad gorau i bawb. Mae’n dweud wrthych:

  • Beth fyddwn ni’n ei wneud
  • Sut fyddwn ni’n gwneud hyn

Pam bod hyn yn bwysig?

Drwy feddu ar gynllun uchelgeisiol ar gyfer y sir gallwn:

  • Wella’r gwasanaethau a ddarparwn
  • Creu gwasanaethau sy’n fwy hygyrch, haws i’w defnyddio a chwrdd ag anghenion y bobl sy’n eu defnyddio nhw
  • Helpu preswylwyr a busnesau i gael cysylltiad band eang mwy cyflym a dibynadwy
  • Cefnogi pobl heb y rhyngrwyd neu ddyfeisiadau i gael eu hunain ar-lein
  • Cefnogi pobl o bob oedran i’w helpu nhw ddysgu a datblygu eu sgiliau digidol ac i fagu hyder wrth eu defnyddio
  • Darparu ein hysgolion gyda’r isadeiledd sydd ei angen arnyn nhw i gyflenwi addysg ar gyfer yr 21ain ganrif
  • Cefnogi busnesau lleol i gysylltu â marchnadoedd ar draws yr holl fyd – tyfu ein heconomi a darparu swyddi lleol i bobl leol
  • Datblygu sgiliau ein gweithlu a’u darparu nhw gyda’r offer sydd ei angen arnyn nhw i gyflenwi’r gwasanaethau a ddarparwn

Sut fyddwn ni’n gwneud hyn?

Mae gan y cynllun wyth prif thema:

  1. Cwsmer Digidol
  2. Gweithlu Digidol
  3. Busnes Digidol a Chysylltedd
  4. Partneriaethau Digidol
  5. Gwybodaeth Ddigidol a Rheoli Data
  6. Darpariaeth Ddigidol
  7. Cynhwysiad Digidol
  8. Dysgu Digidol a Diwylliant

Cwsmer Digidol

Byddwn yn parhau i gyflwyno a gwella ein gwasanaethau digidol, yn cynnwys taliadau, fel:

  • Bod pawb yn gallu cael mynediad hawdd a diogel iddyn nhw
  • Bod nhw’n cael eu cwblhau ar y pwynt cyswllt cyntaf
  • Bod modd eu gwneud ar unrhyw ddyfais – ffôn symudol, gliniadur neu gyfrifiadur
  • Bod modd talu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos
  • Bod modd eu gwneud nhw o unrhyw le – o adref neu wrth fynd o le i le

Pan fydd pobl yn cael trafferthion gyda defnyddio gwasanaethau digidol bydd ein Canolfan Gyswllt a Chanolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn parhau i helpu yn ystod oriau swyddfa.

Gweithlu Digidol

Byddwn yn creu diwylliant digidol ac yn datblygu gweithlu sy’n rhoi’r canlynol i’ch holl weithwyr cyflogedig:

  • Y wybodaeth, sgiliau a’r offer digidol cywir
  • Mynediad i systemau busnes – unrhyw le, unrhyw adeg
  • Mynediad i ofod gweithio’n hyblyg
  • Yr hyder i gyflenwi gwasanaethau digidol o safon uchel i’n cwsmeriaid
  • Cefnogi newid ac addasu i ffyrdd newydd a gwell o weithio

Busnes Digidol a Chysylltedd

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid, busnesau a chymunedau i gyflwyno isadeiledd a thechnolegau digidol fel band eang a signal ffôn symudol cyflym iawn.

Bydd hynny’n cefnogi:

  • Ein busnesau i fod yn gystadleuol ac i gael mynediad i farchnadoedd newydd
  • Ein preswylwyr i gymryd rhan yn y byd digidol ac i gael mynediad at gyflogaeth, addysg a gwasanaethau

Partneriaethau Digidol

Byddwn yn gwella a datblygu systemau a thechnolegau digidol a fydd yn cysylltu pobl a lleoedd.

Bydd hynny’n cefnogi:

  • Cyflenwi gwasanaethau mwy cyfleus
  • Rhannu gwybodaeth ar draws sefydliadau
  • Rhoi gwell gwerth am arian
  • Ffyrdd gwell a newydd o weithio

Gwybodaeth Ddigidol a Rheoli Data

Byddwn yn datblygu ac yn cynnal ein systemau fel bod y data a gasglwn:

  • Yn cael ei amddiffyn a’i gadw’n saff
  • Yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y diben cywir, yn y ffordd gywir, ar yr amser cywir
  • Yn helpu i hysbysu beth ddylai gwasanaethau’r dyfodol edrych fel

Darpariaeth Ddigidol

Byddwn yn cyflwyno’r isadeiledd a systemau TG cywir i:

  • 2ella a chefnogi’r gwaith o gyflenwi ein holl wasanaethau
  • Rhoi gwell gwerth am arian
  • Gwireddu ‘Sir y Fflint Ddigidol’

Cynhwysiad Digidol

Byddwn yn gwneud popeth posib i wneud yn siŵr nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, gan ddarparu cyfleoedd cyfartal i bawb i:

  • Gael mynediad i gefnogaeth a hyfforddiant
  • Cael mynediad i’r rhyngrwyd, dyfeisiadau a gwasanaethau ar-lein
  • Hyrwyddo annibyniaeth a hyder
  • Gwella iechyd a lles
  • Bod yn agored i gyfleoedd newydd

Dysgu Digidol a Diwylliant

Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau eraill i ddarparu’r isadeiledd a’r systemau sydd eu hangen i gefnogi:

  • Dysgu gydol oes ddigidol – yn yr ystafell ddosbarth ac allan yn ein cymunedau
  • Dysgwyr o bob oedran i ymgysylltu’n gadarnhaol gyda’r byd digidol o’u cwmpas
  • Cymunedau i fod ag ymwybyddiaeth ddigidol ac i fod yn hunangynhaliol
  • Pobl i gael mynediad i’r gwasanaethau digidol sydd eu hangen i wella eu hiechyd a lles, addysg a chyfleoedd cyflogaeth

Ein llwyddiant hyd yma

  • Diweddaru ein gwefan gan ddarparu mwy o geisiadau a gwasanaethau ar-lein
  • Gofod preifat a diogel 'Fy Nghyfrif' ar ein gwefan i gwsmeriaid gadw cofnod o’u gofynion o ran gwasanaeth a’u ceisiadau. Mae Fy Nghyfrif hefyd yn galluogi ein tenantiaid i gael mynediad ar-lein i wybodaeth am eu tenantiaeth.
  • Canolbwynt Digidol Sir y Fflint – sef adnodd ar-lein i helpu preswylwyr i ddarganfod technoleg ddigidol, a magu hyder yn eu sgiliau digidol.
  • Gweithio gyda phartneriaid i wella cyfkymder cysylltiad band eang ar draws Sir y Fflint a Gogledd Cymru.
  • Newid y ffordd y byddwn yn qweithio wrth ymateb i COVID-19 fel gweithio o adref, cyfarfodydd ar-lein a fideo gynadledda.

Ein camau nesaf

Byddwn yn parhau i ddatblygu a gweithredu ystod o brosiectau digidol fel:

  • Gynnig mwy o wasanaethau’r Cyngor ar 'Fy Nghyfrif'
  • Gweithredu'r 'Prosiect Rhwydwaith Ffibr Llawn Leol'
  • Symud ein hisadeiledd digidol drosodd i’r cwmwl
  • Gweithio gyda’n partneriaid fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Heddlu Gogledd Cymru i ddatblygu cyfres o ymrwymiadau digidol i ddarparu preswylwyr gyda gwasanaethau ymatebol a chysylltiedig
  • Datblygu ein ‘Strategaeth Rheoli Gwybodaeth a Data’
  • Datblygu a gwella’r wybodaeth sy’n cael ei gynnig trwy Ganolbwynt Digidol Sir y Fflint
  • Gweithio gyda phartneriaid fel GwE i gefnogi ysgolion i gyflenwi’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a Chwricwlwm Cymru

Dweud eich dweud

Hoffem glywed eich barn am ein cynllun digidol.

Gallwch wneud hynny drwy lenwi ein harolwg ar-lein

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich adborth yw Dydd Llun, 31 Ionawr 2022.